Cymorth ariannol ar gael i fusnesau Sir Gâr er mwyn creu cyfleoedd cyflogaeth newydd i bobl ifanc

8 diwrnod yn ôl

Mae Rhaglen Arfor bellach ar agor i fusnesau gael cymorth ariannol i greu cyfleoedd cyflogaeth newydd i bobl ifanc ledled Sir Gâr.

Fel rhan o brosiect Llwyddo'n Lleol, a gefnogir gan raglen Arfor, gall busnesau wneud cais am hyd at £6000 i gynnig lleoliadau gwaith neu gyflogaeth tymor byr i bobl ifanc.

Mae nifer o bobl ifanc yn Sir Gâr eisoes wedi cael cefnogaeth drwy'r cynllun gan gynnwys Megan Plumb o Rydaman, sydd wedi cael lleoliad gyda Menter Dinefwr.

Ar ôl gorffen addysg uwchradd, roedd Megan yn ansicr ynghylch pa lwybr i'w ddilyn ac mae'r lleoliad ym Menter Dinefwr wedi rhoi cyfle iddi weithio mewn gweithle lle siaredir Cymraeg a chael profiad gwerthfawr.

Dywedodd Megan:

Mae'r gefnogaeth gan Llwyddo'n Lleol wedi fy ngalluogi i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn fy ardal leol i lle ges i fy magu ac mae hynny wedi helpu i ddatblygu fy sgiliau i i barhau yn y byd gwaith.

Mae'r elfen Mentro wedi fy ngalluogi i gynnig digwyddiad Dawns Fodern i blant a phobl ifanc yr ardal drwy gyfrwng y Gymraeg a hefyd i godi ymwybyddiaeth o gerddoriaeth Gymraeg.”

 Os ydych chi'n fusnes a allai gynnig cyfle cyflogaeth i berson ifanc, gallwch wneud cais am gymorth ariannol drwy dudalen we Llwyddo'n Lleol 2050.

Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:

Drwy ein partneriaeth gydag Arfor, rwy'n falch iawn o allu cynnig y cymorth ariannol hwn i fusnesau yn Sir Gâr sydd nid yn unig yn rhan annatod o'n heconomi leol, ond sydd hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu rhagolygon gyrfa i'n cenhedlaeth yn y dyfodol a chaniatáu i'n pobl ifanc ddatblygu eu dyfodol yma yn Sir Gâr.”

Llwyddo'n Lleol Sir Gâr

Pwy sy'n gymwys?

  • Busnes neu sefydliad sydd â chyfle/swydd werthfawr i'w chynnig i unigolyn lleol
  • Busnes neu sefydliad sydd â chyfle gwerthfawr i ddatblygu aelod o staff/cynnig profiad newydd i aelod cyfredol o staff
  • Busnes neu sefydliad sy'n gweithredu yn Sir Gâr neu sydd â'i brif swyddfa yno
  • Busnes neu sefydliad sy'n cael ei redeg yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg neu o leiaf yn rhoi llwyfan/pwyslais cyfartal i'r Gymraeg a'r Saesneg.

Allwch chi gynnig?

  • Lleoliad gwaith o fewn maes arloesol – er enghraifft technoleg, gwyddoniaeth, carbon niwtral, marchnata digidol, cyfathrebu, iechyd a lles, ynni adnewyddadwy, technolegau amaethyddol ac ati.
  • Cynnig cyfnod o waith a/neu brofiadau unigryw i'r unigolyn
  • Cynnig cyfleoedd gwaith diddorol i'r unigolyn
  • Cynnig sesiynau mentora a hyfforddiant i'r unigolyn fel ei fod yn cael cymaint o fudd â phosibl o'r bartneriaeth

Beth all Llwyddo'n Lleol 2050 ei gynnig?

  • Gallwch wneud cais am hyd at £6,000 tuag at gost cyflogau, cyfleoedd arbennig a/neu hyfforddi aelod o staff o dan 35 oed.
  • Gellir rhoi cymorth i bobl sydd eisoes mewn cyflogaeth (h.y. busnes sy'n ceisio cymorth i ddatblygu aelod cyfredol o staff)

Y Broses Recriwtio

  • Bydd Llwyddo'n Lleol yn recriwtio pobl ifanc i gymryd rhan yn y rhaglen a bydd yn paru pobl ifanc â chwmnïau/sefydliadau o'r un maes gwaith.
  • Neu gallwch fynd ati i recriwtio ar gyfer y rôl neu nodi eich unigolion eich hun.

Sut mae gwneud cais?

Cynnig dros dro yw hwn a gall gefnogi costau staff hyd at ddiwedd mis Chwefror 2025 yn unig.

I gael sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Ceri Davies, swyddog Llwyddo'n Lleol Sir Gâr, ceri.davies@mentera.cymru

Gellir gweld canllawiau llawn y rhaglen yma Canllawiau-Elfen-Gyrfaol-Ar-gyfer-Busnesau-Feriswn-Dwyieithog.pdf (llwyddonlleol2050.cymru)

Ffurflen gais ar-lein

Mae'n rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn dydd Gwener, 11 Hydref er mwyn iddynt gael eu hystyried.