Credyd Pensiwn - Ymgynghorwyr Hwb Sir Gâr yn ateb eich holl gwestiynau
199 diwrnod yn ôl

Mae Credyd Pensiwn yn rhywbeth nad yw llawer o aelwydydd yn ymwybodol bod ganddynt hawl iddo, gallai hyn hefyd olygu eu bod yn colli allan ar gymorth gyda'u costau gwresogi'r gaeaf hwn. Mae hyn yn dilyn penderfyniad diweddar Llywodraeth y DU i dynnu yn ôl y Taliad Tanwydd Gaeaf i bob pensiynwr ac eithrio'r rhai sy'n derbyn Credyd Pensiwn neu rai budd-daliadau eraill sy’n destun prawf modd.
Gall deall a ydych chi, eich anwylyd, ffrind neu gymydog yn gymwys i gael Credyd Pensiwn fod yn ddryslyd ac mae'n gallu teimlo fel tasg aruthrol i ymchwilio iddo. Ond peidiwch â phoeni, mae Ymgynghorwyr Hwb arbenigol Cyngor Sir Caerfyrddin wrth law i'ch helpu chi a'r rhai rydych chi'n poeni amdanyn nhw i gael y wybodaeth sydd ei angen arnoch.
Mae ein Canolfannau Hwb yn Llanelli, Rhydaman a Chaerfyrddin ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener i gefnogi ein trigolion ar ystod eang o faterion. Bydd y Ganolfan Cyngor ar Bopeth hefyd yn bresennol yn ein Canolfannau Hwb i ateb cwestiynau, darparu cymorth neu arweiniad ar geisiadau ar bob gwasanaeth ar y dyddiadau canlynol:
Hwb Llanelli: 16 a 30 Hydref
Hwb Caerfyrddin: 14, 21 a 28 Hydref
Hwb Rhydaman: 8, 15, 22 a 29 Hydref.
Gallwch hefyd gysylltu â ni am gyngor a chymorth drwy ffonio ein llinell Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi: 01267 234567
Bydd cyngor ar Gredyd Pensiwn hefyd ar gael yn rhwydd drwy gynllun Hwb Bach y Wlad y Cyngor Sir, sy'n ymweld â 10 tref wledig Sir Gaerfyrddin bob mis. Ewch i'n gwefan i weld amserlen Hwb Bach y Wlad.
Os na allwch fynychu un o'n Canolfannau Hwb yn bersonol, bydd Cyngor Sir Caerfyrddin hefyd yn cynnal cyfres o weminarau ar y dyddiadau canlynol:
Dydd Llun, 4 Tachwedd -2pm a 7pm
Dydd Iau, 7 Tachwedd 2pm a 7.30pm
Bydd y gweminarau yn rhoi cyngor ar Gredyd Pensiwn ac yn eich arwain gam wrth gam ar sut i ddarganfod a ydych chi, ffrind, cymydog neu aelod o'r teulu yn gymwys. Gall ein Hymgynghorwyr Hwb hefyd gynghori ar ddulliau eraill o wneud cais.
Bydd y gweminarau hefyd yn cael eu recordio ac ar gael i'w gweld ar ôl y digwyddiadau byw.
Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Linda Evans:
Yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU i dorri taliadau tanwydd gaeaf, mae'n bwysicach nag erioed i drigolion Sir Gaerfyrddin o oedran Pensiwn y Wladwriaeth ddarganfod a ydynt yn gymwys i gael unrhyw gymorth ychwanegol y gaeaf hwn.
Rydym yn apelio nid yn unig at unigolion sy'n hawlio Pensiwn y Wladwriaeth ond hefyd i bobl a allai fod yn pryderu am aelod o'r teulu, ffrind neu rywun yn eich cymuned. Mae ein Hymgynghorwyr Arbenigol yn yr Hwb yn gyfeillgar ac wrth law i'ch helpu.”
Yn y gorffennol roedd pob pensiynwr yn derbyn y Taliad Tanwydd Gaeaf. Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i gael gwared ar y cynllun Taliad Tanwydd Gaeaf ar 29 Gorffennaf 2024, bydd bellach ond ar gael i bobl sydd wedi cyrraedd oedran pensiwn erbyn 23 Medi 2024 (ganwyd cyn 23 Medi 1958) a rhaid cyflwyno cais erbyn 21 Rhagfyr 2024.
Cymhwysedd:
Mae'n rhaid i chi fyw yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban a'ch bod wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i fod yn gymwys am Gredyd Pensiwn.
Cymorth arall os ydych yn cael Credyd Pensiwn
Os ydych yn cael Credyd Pensiwn gallwch hefyd gael cymorth arall, megis:
- Budd-dal Tai os ydych yn rhentu'r eiddo rydych yn byw ynddo
- Taliad Tanwydd Gaeaf
- Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais os ydych yn berchen ar yr eiddo rydych yn byw ynddo
- a Gostyngiad yn y Dreth Gyngor
- Trwydded deledu am ddim os ydych yn 75 oed neu'n hŷn
- help gyda thriniaeth ddeintyddol GIG, sbectol a chostau cludiant ar gyfer apwyntiadau ysbyty, os ydych yn cael math penodol o Gredyd Pensiwn
- helpu gyda'ch costau gwresogi drwy'r Cynllun Gostyngiad Cartrefi Clyd
- gostyngiad ar wasanaeth ailgyfeirio'r Post Brenhinol os ydych yn symud tŷ
Os hoffech wybod a fyddai gennych hawl i gael credyd pensiwn, gallwch ffonio:
Llinell hawlio Credyd Pensiwn
Rhif Ffôn: 0800 99 1234
Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi: 01267 234567
Dolenni Defnyddiol
Cyfrifiannell Credyd Pensiwn - GOV.UK (www.gov.uk)
Credyd Pensiwn: Sut i hawlio - GOV.UK (www.gov.uk)
Esboniwr cyfrifiannell Credyd Pensiwn (youtube.com)
Esboniwr Cyfrifiannell Credyd Pensiwn (Cymraeg) (youtube.com)