Ciosg ar Osod yn Nhref Caerfyrddin
144 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn chwilio am denant i gymryd prydles 12 mis yng Nghiosg 2 yng nghanol tref Caerfyrddin. Mae'r ciosg, sydd â blaen gwydr, le adwerthu o tua 10 metr sgwâr a gwerth rhentu o £30 yr wythnos. Mae'r gofod yn addas ar gyfer ystod eang o ddibenion, a busnesau o bob maint.
Byddai'n ofynnol i fusnesau llwyddiannus osod ffitiadau yn y gofod manwerthu. Felly, bydd ceisiadau'n cael eu hystyried yn bennaf ar sail y defnydd arfaethedig ac addasrwydd o safbwynt adfywio.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
“Mae'r gofod ciosg sydd ar gael yng Nghaerfyrddin mewn lleoliad gwych yng nghanol y dref, sy'n gweld nifer sylweddol o ymwelwyr, yn enwedig ar ddyddiau'r farchnad ac ar y penwythnos. Dylai'r cynnig hwn fod yn ddeniadol i fusnes o unrhyw faint a allai elwa o ofod o'r fath i gynnal eu busnes”.
Bydd ceisiadau'n cau ddydd Gwener 1 Tachwedd am ganol dydd.
Cofrestrwch eich diddordeb drwy e-bostio: Trefi@sirgar.gov.uk
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen- Ciosg 2