Camerâu gorfodi traffig i'w defnyddio i wella diogelwch ffyrdd a llif traffig

187 diwrnod yn ôl

Mae gan y Cyngor Sir uchelgais i wneud y ffyrdd yn Sir Gaerfyrddin yn fwy diogel a lleihau tagfeydd traffig. Mae dau safle wedi'u nodi gan y Cyngor Sir lle gellid lleihau damweiniau a thagfeydd traffig ar rannau o'r ffordd drwy weithredu mesurau gorfodi traffig er mwyn annog cydymffurfiaeth a gwella diogelwch.

Y ddau leoliad lle bydd camerâu gorfodi yn cael eu cyflwyno yw cyffordd Stryd Inkerman â Stryd Murray yn Llanelli gan orfodi'r gorchymyn gwahardd troi i'r dde a gorfodi stopio ar y marciau sgwâr melyn ar yr A4138 yn yr Hendy (Cyffordd 48 o'r M4).

Cyffordd Stryd Inkerman â Murray Street, Llanelli
Mae Gorchymyn Rheoleiddio Traffig ar waith yn y lleoliad hwn sy'n Gwahardd Troi i'r Dde. Cyflwynwyd y Gorchymyn yn wreiddiol i sicrhau diogelwch cerddwyr sy'n defnyddio'r groesfan pelican sydd ychydig i'r dwyrain o'r gyffordd. Fodd bynnag, yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae'r groesfan wedi bod yn safle nifer o wrthdrawiadau traffig, ac mae pedwar ohonynt wedi arwain at anaf personol, ac mae nifer o bryderon am ddiogelwch ffyrdd wedi'u codi gan y gymuned leol.

Drwy gyflwyno camerâu ac arwyddion mwy amlwg, y nod yw gwella'r gyffordd, diogelwch croesfannau cerddwyr a diogelwch i holl ddefnyddwyr y ffordd. Mae llythyrau rhybudd wedi'u cyhoeddi hyd yn hyn, gan roi gwybod i fodurwyr sy'n troseddu eu bod wedi mynd yn groes i'r gorchymyn. Fodd bynnag, mae nifer uchel o bobl yn parhau i beidio â chydymffurfio ac felly bydd y camau gorfodi yn dechrau o ddydd Llun 4 Tachwedd 2024.

Yr A4138 yn yr Hendy
Mae marciau sgwâr melyn wedi'u gosod ar gyffyrdd prysur i hwyluso llif y traffig. Fodd bynnag, yn aml mae pobl yn mynd yn groes i'r marciau ar yr A4138 yn yr Hendy (Cyffordd 48) ac nid ydynt yn cael eu cadw'n glir, gan arwain at fwy o dagfeydd yn enwedig yn ystod yr oriau brig sydd â'r potensial i effeithio ar y traffig ar yr M4. Gall hyn arwain at gynnydd mewn damweiniau a phryderon ynghylch diogelwch ffyrdd. Mae paratoadau yn cael eu gwneud i osod dau gamera gorfodi i orfodi rheolau'r marciau sgwâr melyn ar yr A4138 yn yr Hendy gyda'r nod o leddfu tagfeydd, gwella llif traffig a gwella diogelwch ffyrdd. Bydd llythyrau rhybudd yn cael eu hanfon at yrwyr sy'n troseddu pan fydd y camerâu yn cael eu troi ymlaen ym mis Rhagfyr ac yn dilyn hyn bydd camau gorfodi yn dechrau yn y flwyddyn newydd.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn atgoffa gyrwyr i beidio â mynd i mewn i'r gyffordd sgwâr heb allanfa glir. Peidiwch â mynd i mewn i gyffordd sgwâr os oes siawns y bydd yn rhaid i chi stopio yn y blwch.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith, y Cynghorydd Edward Thomas: “Bydd cyflwyno camerâu gorfodi yn caniatáu i draffig lifo'n esmwyth wrth y cyffyrdd hyn a gwella diogelwch i ddefnyddwyr y ffordd a cherddwyr.

“Mae'r safle yn Stryd Inkerman wedi cael ei fonitro dros y ddau fis diwethaf ac mae tua 30 o lythyrau rhybudd y dydd wedi cael eu hanfon at fodurwyr sydd heb gydymffurfio â'r cyfyngiadau, felly mae'n amlwg bod angen cymryd camau gweithredu pellach i annog cydymffurfiaeth.”

Mae'r camerâu, sydd wedi'u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a'r Asiantaeth Cerbydau ac Ardystio, yn cofnodi tystiolaeth fideo o droseddau posibl. Mae pob fideo yn cael ei adolygu gan swyddog gorfodi sifil sydd wedi'i hyfforddi er mwyn sicrhau bod trosedd wedi digwydd cyn awdurdodi cyhoeddi Hysbysiad Tâl Cosb. Y gosb am ddiffyg cydymffurfio yw £70, sy'n gostwng i £35 os yw'n cael ei dalu o fewn 21 diwrnod. Os yw'r Hysbysiad Tâl Cosb yn cael ei anwybyddu, mae'r gosb yn cynyddu.