Busnesau Sir Gâr yn Croesawu Dysgu Cymraeg gyda Rhaglen Newydd

1 diwrnod yn ôl

I nodi Diwrnod Shwmae Su'mae 2024, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn dathlu ei fenter arloesol i helpu busnesau lleol i groesawu a hyrwyddo’r Gymraeg.

Yn dwyn yr enw “Cymraeg i Fusnesau Sir Gaerfyrddin”, mae’r fenter yn gydweithrediad rhwng rhaglen ARFOR Cyngor Sir Caerfyrddin a rhaglen Cymraeg Gwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae Cymraeg i Fusnesau Sir Gaerfyrddin yn gam pwysig iawn i sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i ffynnu yng nghalon y sir, sy’n gartref i lawer o siaradwyr Cymraeg.

Mae’r fenter, a lansiwyd yn hydref 2023, yn cael ei harwain gan raglen Arfor yn Sir Gaerfyrddin yn dilyn ymgysylltu â busnesau lleol i fesur eu diddordeb yn natblygiad y Gymraeg.

Roedd yr ymateb yn gadarnhaol iawn, gyda dros 23 o fusnesau yn cofrestru ar y cwrs Cymraeg i ddechreuwyr, a ddechreuodd ym mis Ebrill 2024.

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr lefel mynediad, a chynhelir dosbarthiadau’n wythnosol trwy Zoom gan diwtor o Dysgu Cymraeg Ceredigion-Powys-Sir Gaerfyrddin. Mae'r dysgwyr wedi dewis cyfarfod mewn caffi lleol yn achlysurol i gael profiad dysgu mwy cydweithredol, gyda’r tiwtor yn ymuno â nhw ar-lein.

Rhannodd Lowri, tiwtor y cwrs, hanesion twymgalon gan y grwpiau, gan esbonio, "Mae'r dosbarth yn cadw mewn cysylltiad trwy WhatsApp ac erbyn hyn maen nhw'n ffrindiau." Gan dynnu sylw at y cwlwm agos sydd wedi ffurfio rhwng y grŵp, dywedodd, "Mae'r grŵp busnes yn wych i'w addysgu, yn llawn hwyl a jôcs." Dywedodd hefyd, wrth fynegi ei llawenydd wrth wylio'r dysgwyr yn dod yn fwy hyderus, “Maen nhw’n mwynhau siarad Cymraeg ac yn deall mwy o’r iaith. Gwych." 

Disgwylir i'r cwrs ddod i ben erbyn diwedd 2024, gyda llawer o'r dysgwyr yn mynegi eu hawydd i barhau i'r lefel nesaf. Efallai mai’r model dysgu arloesol hwn, lle mae busnesau’n dysgu Cymraeg gyda’i gilydd, yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru, ac mae eisoes yn dangos addewid ar gyfer twf yn y dyfodol.

Mae Paul Raven, perchennog Tea Traders yng Nghaerfyrddin, yn un o'r dysgwyr brwdfrydig. Mae ei fusnes, sydd yn y Clos Mawr, wedi bod yn rhan o’r gymuned ers 2017. Cofrestrodd Paul ar gwrs Lefel Mynediad y Gymraeg gyda’r nod o wella ei sgiliau Cymraeg a’i hyder. Fel perchennog busnes lleol, mae’n cydnabod pwysigrwydd cysylltu â chwsmeriaid yn Gymraeg.

Gyda balchder, dywedodd Paul,

Dw i'n dysgu Cymraeg! Mae gennym ni lawer o gwsmeriaid Cymraeg eu hiaith, felly mae’n wych gallu cyfnewid cyfarchion syml gyda nhw yn Gymraeg, neu sgwrsio am y tywydd. Rwy’n ceisio gwasanaethu cwsmeriaid yn Gymraeg lle y gallaf, ac mae ein cwsmeriaid ffyddlon yn fy helpu i fagu hyder.”

Mae Paul hefyd yn canmol hyblygrwydd y rhaglen, gan nodi bod dau aelod o'i dîm hefyd yn dysgu Cymraeg. "Mae'r rhaglen Cymraeg i Fusnesau wedi bod yn berffaith i mi. Rydw i wir wedi mwynhau mynychu'r gwersi wythnosol dros Zoom a dysgu gyda phobl o fusnesau lleol eraill. Rwy’n edrych ymlaen at gofrestru ar y cwrs nesaf a byddwn yn ei argymell i unrhyw un sydd eisiau defnyddio mwy o Gymraeg fel rhan o'u busnes.”

Mae llwyddiant y rhaglen "Cymraeg i Fusnesau Sir Gaerfyrddin" yn fenter arall sydd wedi cael ei chefnogi gan Arfor yn Sir Gaerfyrddin. Mae Arfor yn rhaglen ranbarthol sydd â’r nod o ddarparu cymorth economaidd sy’n caniatáu ar gyfer cynaliadwyedd a thwf y Gymraeg.

Mae’r fenter yn pwysleisio ymrwymiad y Cyngor Sir i gadw’r Gymraeg yn fyw ac i ffynnu, a hynny yn y gymuned fusnes yn ogystal ag ymhlith unigolion.  Drwy feithrin y cydweithio hwn rhwng busnesau lleol a dysgu Cymraeg, mae Sir Gaerfyrddin yn gosod esiampl gref i ranbarthau eraill ei dilyn.

Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:

Gydag adborth cadarnhaol a brwdfrydedd gan ddysgwyr fel Paul Raven, mae’n amlwg mai megis y dechrau yw’r rhaglen hon. Wrth i fwy o fusnesau edrych i ymuno â chyrsiau’r dyfodol, mae Sir Gaerfyrddin ar ei ffordd i ddod yn arweinydd wrth hybu’r defnydd o’r Gymraeg mewn busnes, gan sicrhau bod yr iaith yn parhau i ffynnu am genedlaethau i ddod.”

Os ydych chi'n fusnes yn Sir Gaerfyrddin sy'n dymuno datblygu eich sgiliau Cymraeg neu os oes gennych chi staff yn eich busnes a fyddai'n elwa ar y cynnig hwn, cysylltwch ag Arfor@sirgar.gov.uk