Bouygues UK yn partneru â Buckingham Pools i greu pyllau amlbwrpas ym Mhrosiect Pentre Awel Llanelli

14 diwrnod yn ôl

Mae’r contractwr adeiladu Bouygues UK, mewn partneriaeth â Buckingham Pools, wedi adeiladu dau bwll amlbwrpas ym Mhentre Awel, Llanelli. Mae'r pyllau'n cynnig cyfleusterau hamdden o safon fyd-eang i'r gymuned leol.

Mae’r datblygiad arloesol, sy’n werth miliynau o bunnoedd, a gaiff ei ddarparu gan Gyngor Sir Gâr, yn gartref i brif bwll cystadlu 25 metr o hyd, sy’n cynnwys system rendrad a morter llyfn priod Ardex lawn sy’n dal dŵr, gyda philen tancio ar ei phen, ynghyd â phwll llai i ddysgwyr.

Datblygwyd prosiect y Ganolfan Campau Dŵr Olympaidd o safon fyd-eang yn Saint-Denis, Paris gan Bouygues Bâtiment Ile-de-France a Bouygues Travaux Publics, sef is-gwmnïau Bouygues Construction ac, oherwydd y tebygrwydd agos i strwythur y ffrâm, y systemau hidlo uwch a’r broses adeiladu ar gyfer pyllau Pentre Awel, cafodd Bouygues UK wersi o’r gwaith adeiladu ym Mharis i wella ansawdd y pyllau aml-ddefnydd yn Llanelli.

Mae gan brif bwll datblygiad Pentre Awel wyth lôn, ynghyd â marciau ymyl uchaf ac ardal benodol ar gyfer y rhai nad ydynt yn nofio. Fe'i cynlluniwyd gyda system sianel gorlif ddwbl, sy'n gwahanu dŵr y pwll oddi wrth ddŵr ochr y pwll gyda darnau adrannol teils. Bydd hefyd yn cynnwys system amseru o'r radd flaenaf, sgrin arddangos 4K fawr, a'r offer mynediad â chymorth diweddaraf gan PoolPod, gan sicrhau hygyrchedd i bob defnyddiwr.

Gerllaw'r prif bwll mae'r pwll i ddysgwyr, sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu lled y pwll cystadlu. Bydd yn lle delfrydol ar gyfer gwersi nofio i blant iau ac oedolion. Mae'r pwll i ddysgwyr yn cynnwys yr un gorffeniadau dylunio o ansawdd uchel â'r prif bwll, gan sicrhau bod golwg y cyfleuster yn aros yn gyson.

Meddai rheolwr prosiect Pentre Awel, Peter Sharpe, o Bouygues UK:

“Mae’r pyllau hyn yn cynnig cyfleuster gwych i’r gymuned leol. Mae cydweithio ochr yn ochr â Buckingham Pools yn golygu y bydd gan gymuned Sir Gaerfyrddin ganolfan hamdden o safon fyd-eang ar garreg ei drws. Ymwelodd tîm y prosiect â phwll Olympaidd Paris, sy’n brosiect tebyg, i sicrhau ein bod yn ymgorffori arferion gorau, manylion manwl gywir a manylebau cryf, gyda ffocws ar ddarparu pwll cystadlu mewn amgylchedd heriol.”

Ychwanegodd Richard Sharman, Rheolwr Contractau yn Buckingham Pools:

“Mae cael eich penodi gan Bouygues UK, arweinydd yn y diwydiant adeiladu, yn adlewyrchu’r ymddiriedaeth yn ansawdd a dibynadwyedd Buckingham Pools. Mae Bouygues UK yn enwog am ei hymrwymiad i ragoriaeth, arloesedd a chynaliadwyedd — sef gwerthoedd sy'n cyd-fynd yn agos â'n rhai ni. Mae prosiect Pentre Awel yn fwy na menter adeiladu yn unig; mae'n cynrychioli gweledigaeth o lesiant i’r gymuned ac ymgysylltu â hi.
Gyda dau bwll nofio, pob un yn cynnwys manylebau dylunio uchel a gofynion defnydd gwahanol, roedd y prosiect yn mynnu sylw manwl i fanylion a rheolaeth amser. Un o'r prif heriau fu cadw at y rhaglen adeiladu dynn ac mae tywydd garw wedi effeithio'n sylweddol ar grefftau eraill, gan achosi effaith domino ar ein hamserlen waith. Fodd bynnag, er gwaethaf y rhwystrau hyn, rydyn ni wedi addasu a chynnal cynnydd trwy gynllunio gofalus a hyblygrwydd.”

Meddai’r Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Gâr dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

“Bydd y cyfleusterau hamdden newydd ym Mhentre Awel yn gwella profiad defnyddwyr yn sylweddol, gan ddarparu pyllau nofio o ansawdd uchel iddynt, sy'n addas i'r rhai sy'n dysgu nofio, neu'r rhai a allai fod yn fwy profiadol. Mae’r gwelliannau hyn wedi’u gwneud gyda’r gymuned mewn golwg, ac mae’r Cyngor yn falch eu bod nhw’n gallu cyflawni rhywbeth a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar gymunedau lleol”.

Bydd datblygiad arloesol Pentre Awel, sy’n werth miliynau o bunnoedd, yn dod ag arloesi ym maes gwyddor bywyd a busnes, gofal iechyd cymunedol a chyfleusterau hamdden modern at ei gilydd ar safle 83 erw Llynnoedd Delta ar arfordir Llanelli. Mae’n cael ei hariannu’n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe (£40miliwn) a dyma’r cynllun adfywio mwyaf yn ne-orllewin Cymru.