Wythnos Dysgu Oedolion

100 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn dathlu dysgwyr ar draws y Sir yn ystod Wythnos Dysgu Oedolion.

Mae tîm twristiaeth y Cyngor Sir wedi lansio ei Gynllun Llysgenhadon Twristiaeth Sir Gâr, sy'n rhoi'r hyfforddiant a'r wybodaeth gywir i bobl am rinweddau arbennig Sir Gaerfyrddin. Mae'r cynllun yn annog mwy o bobl i gymryd rhan a dod yn llysgennad.  Mae dros 400 o bobl eisoes wedi cofrestru ar gyfer y cynllun ar-lein. Sir Gaerfyrddin Gynaliadwy yw'r modiwl diweddaraf i gael ei ryddhau ar y platfform a fydd yn parhau i ehangu dros y misoedd nesaf wrth i fwy a mwy o fodiwlau gael eu hychwanegu.

Mae cofrestru i fod yn Llysgennad Cymru yn gyfle gwych i ddysgu rhywbeth newydd y mis hwn. Gall dysgu parhaus gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl; p'un a ydych chi'n awyddus i ddysgu mwy am yr ardal, gwella eich gobeithion o ran cael gwaith neu gwrdd â phobl newydd, mae dod yn Llysgennad yn ffordd wych o ddyfnhau eich gwerthfawrogiad o le.

Mae'r Cyngor hefyd wedi bod yn defnyddio arian o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU (UKSPF) i annog addysg ymhlith oedolion.

Mae Herio, partneriaeth rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin, Coleg Sir Gâr ac Addysg Oedolion Cymru, yn gweithio gydag oedolion 19+ oed i wella eu hyder mewn mathemateg. Mae Herio yn cynnig sesiynau hwyliog, ymarferol wedi'u teilwra o amgylch anghenion unigol neu grŵp. Mae'r holl sesiynau am ddim.

Mae sesiynau Herio wedi bod o fudd i ddysgwyr o bob rhan o'r Sir. Cafodd un dysgwr, Amani, ei gyfeirio at Herio ym mis Awst 2023 a llwyddodd i ddilyn cwrs a ariannwyd gan Herio a'i gyflwyno gan Wasanaeth Dysgu Sir Gaerfyrddin yn Sied Nwyddau Rheilffordd Llanelli. Llwyddodd Amani i gwblhau'r cwrs a chael cymhwyster TGAU Mathemateg Gradd B.

Am fwy o wybodaeth am Herio, ewch i'w gwefan

Mae Canolfannau Gwasanaeth Cwsmeriaid Hwb Cyngor Sir Caerfyrddin wedi'u lleoli o amgylch y Sir, gan gynnig cymorth, cefnogaeth a chyngor ar amrywiaeth o bynciau. Mae staff ymroddedig Hwb wrth law i'ch helpu gydag unrhyw ymholiadau ynghylch sut y gallwch gymryd rhan mewn cyrsiau ar gyfer dysgwyr sy'n oedolion.

I gael gwybod ble gallwch ymweld â Hwb Bach y Wlad, gwasanaeth Hwb gwledig y Cyngor, ewch i'r wefan.

I gael rhagor o wybodaeth am ein Hybiau Gwasanaethau Cwsmeriaid ehangach, ewch i'w gwefan.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Addysg a'r Gymraeg:

Mae Wythnos Dysgu Oedolion yn amser gwych i arddangos y gwaith pwysig sy'n cael ei wneud yn y Sir. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i greu amgylchedd lle gall unigolion ddysgu drwy gydol eu bywydau mewn iaith o'u dewis. Rwy'n canmol cyflawniadau dysgwyr ymroddedig Sir Gaerfyrddin ac yn annog unrhyw un sy'n ystyried parhau â'u hastudiaethau ar unrhyw lefel, i wneud hynny.

Caiff Wythnos Dysgu Oedolion ei chydnabod yn fyd-eang ac mae'n dathlu gwerth dysgu gydol oes. Nod Wythnos Dysgu Oedolion hefyd yw ysbrydoli pobl i ddarganfod sut y gall dysgu newid bywydau.

I gael gwybod mwy am Wythnos Dysgu Oedolion yng Nghymru, ewch i'r wefan.