Talentau lleol yn serennu: Première ffilm arswyd o Gymru "Scopophobia" yng Nghaerfyrddin

109 diwrnod yn ôl

Mae Caerfyrddin ar fin dod yn ganolbwynt y sinema yng Nghymru wrth iddi gynnal première ffilm arswyd newydd gyffrous o Gymru sef "Scopophobia" nos Sadwrn, 7 Medi, am 7:30pm yn Theatr y Lyric. Mae'r ffilm, sy’n stori afaelgar am ofn ac euogrwydd, yn gynhyrchiad gan Aled Owen o Gaerfyrddin a'i gyd-gynhyrchydd Tom Rawding o Portsmouth, dan faner eu cwmni cynhyrchu lleol, Melyn Pictures Ltd.

Mae "Scopophobia" yn archwilio'r arswyd seicolegol o gael eich gwylio, gan ganolbwyntio ar gymeriad Rhiannon, sy'n cael ei chwarae gan Catrin Jones o Abertawe. Mae'r stori'n cael ei hadrodd wrth i Rhiannon, sy'n dal i gofio ei rhan mewn lladrad mewn melin ddur leol yn ystod ei harddegau, yn cwrdd unwaith eto gyda’i ffrindiau i ddod o hyd i arian a gafodd ei ddwyn a’i guddio flynyddoedd yn ôl. Mae'r hyn sy'n dechrau fel tasg syml yn troi'n iasol pan fydd y ffrindiau yn cael eu cloi y tu mewn i'r felin sydd bellach yn wag, ac yn cael eu dilyn gan fygythiad na ellir ei weld.

Mae'r ffilm yn cynnwys cast talentog o Gymru, Bethany Williams-Potter o Gaerfyrddin, Emma Stacey o Ben-y-bont ar Ogwr, ac Ellen Jane-Thomas o Ddinbych-y-pysgod, ar y cyd â'r actorion profiadol o Gaerfyrddin Ioan Hefin, Christine Kempell, a Lisa Marged. Bydd y première Cymreig yn Theatr y Lyric yn ddathliad o ddoniau lleol a'r ysbryd cymunedol a wnaeth y ffilm yn bosibl.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cefnogi cynyrchiadau ffilm a drama o bob graddfa a maint, ac mae'r pwyslais bob amser ar y budd i'r gymuned a'r economi leol. Hyd yma eleni, mae'r cyngor wedi derbyn a chefnogi 62 o geisiadau am ffilmio. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i  https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/busnes/cyfleoedd-ffilmio/

Mae croeso cynnes i'r cyhoedd ymuno â'r dathliad yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin, ddydd Sadwrn, 7 Medi. Bydd y drysau'n agor am 6.30pm, gyda'r ffilm yn dechrau am 7:30pm. Gall mynychwyr fwynhau diod ar y carped coch a chael cyfle i dynnu lluniau cyn i'r ffilm ddechrau. Mae tocynnau ar gael i'r cyhoedd eu prynu drwy wefan Theatrau Sir Gâr.

Yn dilyn y première yn Theatr y Lyric, gall y gynulleidfa fwynhau perfformiad arbennig gan y cerddor o Gaerfyrddin, GG Fearn yn 'Cwrw' ar Heol y Brenin, lle bydd yn perfformio caneuon sydd wedi'u cynnwys yn y ffilm, gan ychwanegu at y dathliadau wrth i’r ffilm gael ei rhyddhau.

Ac yntau yn awdur, cyfarwyddwr a chynhyrchydd "Scopophobia," mae Aled Owens yn edrych yn ôl ar ei brofiad yn ffilmio yn ei dref enedigol:

Fel bachgen o Gaerfyrddin, a gafodd ei eni a'i fagu yma, rwyf mor falch fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn deall ein hymdrechion i greu cyfle i ni ein hunain fel gwneuthurwyr ffilm ifanc. Mae gwneud ffilmiau'n teimlo fel tasg amhosib ar y gorau, felly roedd parodrwydd y Cyngor i gydweithio yn fendith i ni a'n hadnoddau cyfyngedig."

Rhannodd Hazel Evans, Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth, ei brwdfrydedd am noson agoriadol y ffilm:

Rwy'n falch iawn bod y ffilm 'Scopophobia' yn cael ei dangos am y tro cyntaf yng Nghaerfyrddin. Mae'r ffilm hon nid yn unig yn arddangos talent anhygoel ein gwneuthurwyr ffilm lleol ond mae hefyd yn tynnu sylw at dirlun diwylliannol bywiog ein cymuned. Mae cefnogi ymdrechion creadigol o'r fath yn cyd-fynd â'n hymrwymiad i feithrin celfyddydau a thwristiaeth lleol, ac rydym yn falch ein bod wedi chwarae ein rhan i helpu'r prosiect hwn ddwyn ffrwyth."

Peidiwch â cholli'r cyfle unigryw hwn i gefnogi talentau lleol a chael noson llawn cyffro a fydd yn eich cadw ar flaen eich sedd. Ymunwch â ni yn Theatr y Lyric ar gyfer première y ffilm o Gymru sef  Scopophobia. Dewch i weld beth arall sydd ymlaen yn Theatrau Sir Gâr yma.