Rhaglen Ysgolion Bywyd Da yn lansio yn Sir Gaerfyrddin i Hyrwyddo Byw'n Gynaliadwy
91 diwrnod yn ôl
Mewn ymdrech newydd i hyrwyddo cynaliadwyedd, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn falch iawn o gyhoeddi ei fod yn cymryd rhan yn y rhaglen Ysgolion Bywyd Da. Nod y fenter arloesol hon a arweinir gan fyfyrwyr yw addysgu ac ysbrydoli myfyrwyr ysgolion uwchradd i fabwysiadu ffyrdd o fyw sy'n defnyddio llai o adnoddau a dod yn arweinwyr rhagweithiol yn eu cymunedau.
Gan ddechrau ym mlwyddyn academaidd 2024-25, bydd y rhaglen Ysgolion Bywyd Da yn ymgysylltu â phobl ifanc rhwng 11 a 18 oed ar draws pum ysgol uwchradd yn Sir Gaerfyrddin: Ysgol Coedcae, Ysgol Bryngwyn, Ysgol Bro Dinefwr, Ysgol Gyfun Emlyn, a Maes y Gwendraeth. Trwy'r rhaglen hon, bydd myfyrwyr yn archwilio effaith defnydd uchel o adnoddau ar yr amgylchedd a llesiant personol. Byddant hefyd yn cydweithio i ddatblygu 'Siarter Bywyd Da' ar gyfer cymunedau eu hysgolion, gan hyrwyddo ymrwymiadau hirdymor i leihau defnydd o adnoddau a gwella llesiant cyffredinol.
Bydd y rhaglen Ysgolion Bywyd Da, a ddarperir gan yr elusen amgylcheddol Global Action Plan, yn cael ei rhoi ar waith ar draws 60 o ysgolion yn Swydd Efrog, Canolbarth Lloegr, De Cymru a Gogledd-ddwyrain Lloegr. Gyda gweledigaeth hirdymor o ehangu cenedlaethol, nod y rhaglen yw grymuso cymunedau ledled y DU i redeg mentrau tebyg yn annibynnol.
Gyda chymorth grant hael o dros £1.1 miliwn gan Gronfa Gweithredu Hinsawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, nod y rhaglen yw mynd i'r afael â'r mater dybryd o orddefnyddio, sy'n effeithio ar iechyd yr amgylchedd a llesiant personol.
Meddai'r Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:
Mae lansio'r rhaglen Ysgolion Bywyd Da yn gam sylweddol ymlaen yn ein hymrwymiad i feithrin diwylliant o gynaliadwyedd a gweithredu er budd yr hinsawdd yn ein cymunedau. Drwy gynnal trafodaethau ystyrlon â'n pobl ifanc am ddefnydd ac effaith amgylcheddol, rydym nid yn unig yn eu grymuso i wneud dewisiadau gwybodus ond hefyd yn sicrhau eu bod yn dod yn gyfranogwyr gweithredol wrth lunio dyfodol mwy cynaliadwy."
Dywedodd Dr Morgan Phillips, Cyfarwyddwr Addysg ac Ymgysylltu ag Ieuenctid Global Action Plan:
Yn ogystal â niweidio iechyd ein planed, mae gorddefnyddio hefyd yn cael effaith niweidiol ar ein llesiant meddyliol a chorfforol. Diolch i'r rhai sy'n chwarae'r Loteri Genedlaethol, rydym yn galluogi ysgolion ledled y DU i archwilio a phrofi'r hyn y mae'n ei olygu i fyw bywydau hapusach ac isel eu heffaith.
Trwy ein rhaglen Ysgolion Bywyd Da, rydym yn gobeithio grymuso cenhedlaeth o bobl ifanc i weithredu ar y cyd er lles pobl a'r blaned, gan greu cymdeithas gynaliadwy a thosturiol sy'n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd."
Ychwanegodd Nick Gardner, Pennaeth Gweithredu Hinsawdd Cronfa Gymunedol y Loteri:
Mae pobl ifanc heddiw yn tyfu i fyny mewn byd llawn pwysau - mae rhai'n weladwy iawn ac eraill yn llai gweladwy. Mae'r hyn rydyn ni'n ei brynu a'i ddefnyddio wrth i ni fyw ein bywydau bob dydd yn cael effaith amgylcheddol bwysig; pe bai pawb yn y byd yn byw fel dinesydd cyffredin y DU, byddai angen tua dwy blaned a hanner arnom i'w cynnal. Mae'n bwysig nodi 'pam' ond hefyd symud y tu hwnt i hyn i 'sut'. Mae Cronfa Gweithredu Hinsawdd y Loteri Genedlaethol yn cefnogi cannoedd o brosiectau ledled y DU sy'n cefnogi cymunedau lleol i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd mewn amrywiaeth o ffyrdd. Nod y prosiect llawn dychymyg hwn yw annog disgyblion ysgol i ystyried (gyda'i gilydd) effeithiau ehangach eu penderfyniadau prynu yn ogystal â chynnig cefnogaeth i'r rhai sydd am gymryd camau amgylcheddol cadarnhaol."