Mwy o gymunedau yn Sir Gaerfyrddin ar fin cael uwchraddiad cyflym iawn
107 diwrnod yn ôl
Mae Openreach wedi cyhoeddi y gallai cartrefi a busnesau cymwys o amgylch Llanpumsaint, Llansteffan, Bancyfelin a Phont-iets gael gwell band eang cyn hir gyda chefnogaeth cynllun Talebau Gigabit Llywodraeth y DU.
Mae Openreach wedi nodi pedair ardal arall yn y sir sydd o fewn cwmpas band eang ffeibr llawn. Mae'r gyntaf ger cyfnewidfa Llanpumsaint, a bydd yn gwasanaethu eiddo yn ardal Rhydargaeau i raddau helaeth, a bydd gweddill y cyfnewidfeydd yn cynnwys Llansteffan, Bancyfelin a Phont-iets.
Mae trigolion cymwys eisoes wedi dechrau addo Talebau Gigabit i ddod â band eang ffeibr llawn i'r cymunedau hyn trwy wneud cais am a chyfuno eu Talebau Gigabit Llywodraeth y Du am ddim i helpu i ariannu'r gwaith gosod. Er mwyn i'r gwaith fynd rhagddo, mae Openreach angen i 75 o breswylwyr neu fusnesau yn Llanpumsaint, 215 yn Llansteffan, 142 ym Mancyfelin a thua 356 ym Mont-iets i gofrestru. Hyd yn hyn, mae'r ymateb wedi bod yn gadarnhaol iawn gyda nifer yr addewidion ar gyfer y nod ariannu fel a ganlyn:
- Llansteffan 88%
- Pentywyn 77%
- Llanpumsaint 61%
- Bancyfelin 48%
Mae Pont-iets, y lleoliad diweddaraf sydd wedi’i gynnwys yn y cynlluniau uwchraddio, eisoes wedi cyrraedd 29% o’r addewidion sydd eu hangen yn ystod yr wythnos ddiwethaf yn unig, sy’n dangos bod pobl ledled Sir Gaerfyrddin yn deall manteision band eang gwell yn llawn a sut y gall wella bywyd bob dydd.
Gall preswylwyr wirio a ydynt yn gymwys ac ymrwymo eu talebau ar wefan Cysylltu fy Nghymuned
Mae'r penderfyniad ar adeiladu'r seilwaith ffeibr, yr adeiladau a gwmpesir, a'r amserlen i gyd yn destun arolygon technegol, yn ogystal â nifer y talebau a addawyd gan y gymuned.
Nid yw'r talebau dilys yn costio dim i drigolion a bydd defnydd digonol yn galluogi Openreach i weithio gyda chymuned leol i adeiladu rhwydwaith wedi'i deilwra a'i ariannu ar y cyd. Gellir cyfuno’r talebau i ymestyn y rhwydwaith gwibgyswllt, tra-ddibynadwy i adeiladau mewn ardaloedd gwledig anghysbell na fyddant yn cael eu cynnwys yn y buddsoddiad preifat.
Dywedodd Martin Williams, Cyfarwyddwr Partneriaethau Openreach yng Nghymru,
Mae band eang dibynadwy cyflym yn hanfodol ar gyfer bywyd modern, mae ein timau peirianneg wedi bod yn brysur iawn yn uwchraddio ein rhwydwaith band eang i ffeibr llawn - ffeibr cyflym iawn i fwy na 925,000 o gartrefi a busnesau ledled Cymru ac mae'r cynlluniau talebau hyn yn Sir Gaerfyrddin yn gyfle gwych i gael gafael ar gyllid y Llywodraeth a fydd yn galluogi ein peirianwyr i drawsnewid cyflymder band eang ac adeiladu rhwydwaith band eang a fydd yn addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Pan fydd targed yr addewid ar gyfer y cynllun wedi’i fodloni, mae angen i drigolion sicrhau eu bod wedyn yn dilysu eu talebau gyda’r Llywodraeth fel y gall Openreach gadarnhau y gall gwaith ddechrau.
Fel rhan o'r amodau cyllido, gofynnir i breswylwyr ymrwymo i archebu gwasanaeth ffeibr llawn gan ddarparwr o'u dewis am o leiaf 12 mis pan fydd y rhwydwaith newydd ar gael a chadarnhau eu bod wedi'u cysylltu.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth - y Cynghorydd Hazel Evans,
Mae parhau i uwchraddio ardaloedd o'r sir sy'n cael trafferth gyda'u band eang, yn golygu y bydd nifer cynyddol o drigolion a busnesau bellach yn elwa ar gael gwell cysylltiadau.”
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i helpu pob cymuned i gael band eang gwell a bydd yn parhau i weithio gyda chyflenwyr seilwaith i roi hyn ar waith."
Mae rhwydweithiau ffeibr llawn yn darparu cysylltedd mwy dibynadwy, gwydn sy'n diogelu'r dyfodol; gan olygu llai o ddiffygion; cyflymderau mwy rhagweladwy, cyson a digon o gapasiti i fodloni gofynion data cynyddol yn hawdd. Mae hefyd yn addas ar gyfer y dyfodol, sy'n golygu y bydd yn gwasanaethu cenedlaethau i ddod ac na fydd angen ei uwchraddio am ddegawdau.
Os ydych yn byw yn Sir Gaerfyrddin ac os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r cynllun talebau, siaradwch â'ch Swyddog Ymgysylltu Band Eang Lleol. Aled Nicholas – broadband@sirgar.gov.uk
Ewch i wefan Openreach i gael rhagor o wybodaeth am fand eang ffeibr Openreach.