Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn cynnal digwyddiad 'Ffyrdd o gael Gwaith' AM DDIM rhwng 10am ac 1pm ddydd Mercher, 25 Medi 2024 yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli.

92 diwrnod yn ôl

Bydd y digwyddiad yn cynnwys ffair swyddi gyda swyddi gwag gan gwmnïau lleol, cyngor gan y rhaglenni cyflogaeth sydd ar gael, mynediad at hyfforddiant a chymorth am ddim ar gyfer cael gwaith. Mae hyn yn cynnwys ysgrifennu CV, gwirfoddoli a phrofiad gwaith, cymorth ysgrifennu ceisiadau a llawer mwy!

Bydd y digwyddiad hefyd yn rhoi cyfle i unigolion gael gwybodaeth gan sefydliadau sy'n gallu rhoi cymorth o ran agweddau eraill ar faterion allweddol a allai fod yn effeithio ar eu bywydau, gan ymdrin â phynciau megis costau byw ac iechyd a llesiant.  

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Addysg a'r Gymraeg:

 "Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i gefnogi unigolion sy'n chwilio am waith, gan roi'r sgiliau a'r offer sydd eu hangen arnynt i wella eu cyflogadwyedd. Mae'r Cyngor Sir yn ymroddedig i sicrhau bod ei gymuned mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant".

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i:Facebook