Gwaith yn dechrau ar yr Hwb Iechyd a Llesiant
108 diwrnod yn ôl
Mae'r gwaith ar hen adeilad Debenhams yng Nghaerfyrddin wedi dechrau'n swyddogol. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi creu partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i ddod â Hwb Iechyd a Llesiant newydd i'r dref.
Mae'r prif gontractwr, Bouygues UK, wedi bod ar y safle ers 15 Gorffennaf 2024, gan drawsnewid yr hen siop yn hwb iechyd a llesiant o'r radd flaenaf sy'n cynnwys cyfleusterau addysg, darpariaeth hamdden unigryw a chanolfan adloniant o safon uchel i'r teulu.
Cyllidir y prosiect hwn mewn partneriaeth â £7 miliwn gan Lywodraeth Cymru drwy Raglen Cronfa Cyfalaf Integreiddio ac Ail-gydbwyso Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, fel rhan o Raglen Gyfalaf Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru, a hefyd cyllid o £18 miliwn gan Lywodraeth y DU.
Mae graffeg wedi'i gosod ar y ffenestri presennol ar y safle, gan roi manylion i'r cyhoedd am ba wasanaethau fydd ar gael yn yr Hwb ar ôl iddo agor. Mae'r gwasanaethau'n cynnwys:
- Gwasanaethau iechyd cymunedol
- Gwasanaethau Cwsmeriaid
- Campfa 24 awr
- Ystafelloedd ffitrwydd hyblyg
- Canolfan adloniant i'r teulu: Golff antur, tref chwarae meddal, gwib-gertio electronig a TAGactive
- Mynediad i Addysg
Ynghyd â'r wybodaeth hon, mae'r graffeg ffenestri yn cynnwys delweddau a luniwyd gan gyfrifiadur, sy'n rhoi syniad o sut olwg fydd ar y lle pan fydd ar agor. Sylwch mai enghreifftiau yn unig yw'r delweddau a ddangosir ar y graffeg.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Diwylliant, Hamdden a Thwristiaeth:
Mae disgwyl i hen safle Debenhams gynyddu nifer yr ymwelwyr yng nghanol y dref a sbarduno twf economaidd pellach i Sir Gaerfyrddin. Ein gobaith yw y bydd y graffeg ffenestri yn helpu'r cyhoedd i ddychmygu sut olwg fydd ar yr Hwb Iechyd a Llesiant pan fydd ar agor.
Dywedodd Lee Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:
Rydym yn gweithio ochr yn ochr â'n partneriaid ar y datblygiad cyffrous hwn a fydd yn lleoli ystod eang o wasanaethau iechyd, llesiant a gwasanaethau eraill gyda'i gilydd mewn hwb canolog. Bydd y cyfleusterau o fudd i'n cymuned leol yn awr ac yn y dyfodol, ac edrychwn ymlaen at weld y prosiect yn symud ymlaen dros y misoedd i ddod.
Ychwanegodd John Boughton, Rheolwr Gyfarwyddwr Cymru Bouygues UK:
Mae'n wych cael gweithio ochr yn ochr â Chyngor Sir Caerfyrddin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar yr Hwb, gan roi bywyd newydd i bron i 8,000 metr sgwâr o ofod masnachol yng nghanol y dref.
Trwy adnewyddu yn hytrach nag ailadeiladu'r hen siop fawr byddwn yn cyd-fynd ag ymrwymiad Bouygues UK i gynaliadwyedd hinsawdd ac amgylcheddol, a byddwn yn parhau i wneud hynny wrth i ni weithio ar yr Hwb gyda'n cadwyn gyflenwi leol. Bydd yn ganolfan hanfodol a hygyrch yn y gymuned ar gyfer addysg, iechyd, a hamdden.
Bydd yr Hwb Iechyd a Llesiant ar agor i'r cyhoedd yn 2026.