Enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Actif Sir Gâr 2024
93 diwrnod yn ôl
Mae enwebiadau bellach ar agor ar gyfer Gwobrau arobryn Chwaraeon Actif Sir Gâr 2024. Gwahoddir y cyhoedd i enwebu arwyr lleol o fyd y campau - boed yn athletwyr, yn hyfforddwyr, yn wirfoddolwyr, neu'n glybiau - i gael cyfle i gael eu cydnabod am eu cyfraniadau eithriadol i fyd chwaraeon yn y sir.
Mae Gwobrau Chwaraeon Actif Sir Gâr, a drefnir gan Dîm Chwaraeon a Hamdden Cyngor Sir Caerfyrddin, yn dathlu llwyddiannau eithriadol ym myd chwaraeon ac yn cydnabod ymroddiad y rhai sy'n helpu chwaraeon i ffynnu yn Sir Gâr. Mae'r gwobrau'n tynnu sylw at bobl ym myd y campau, hyfforddwyr ymroddedig, a gwirfoddolwyr diflino'r rhanbarth sy'n cael effaith sylweddol ar eu cymunedau.
Mae categorïau'r gwobrau eleni yn cynnwys:
- Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn
- Chwaraewr a Chwaraewraig y Flwyddyn
- Chwaraewr Anabl y Flwyddyn
- Hyfforddwr Chwaraeon Cymunedol a Hyfforddwr Chwaraeon o Safon Uchel y Flwyddyn
- Gwirfoddolwr a Pherson Ifanc Ysbrydoledig y Flwyddyn
- Tîm Chwaraeon, Tîm Ifanc a Chlwb Chwaraeon y Flwyddyn
- Gwobr am Wasanaeth Rhagorol i Chwaraeon
Gellir enwebu unrhyw un a anwyd yn Sir Gâr, sy'n byw yn y sir ar hyn o bryd, neu sy'n cynrychioli clwb neu ysgol yn Sir Gâr. Mae athletwyr, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr hefyd yn gymwys i gael eu henwebu am sawl gwobr, er bod angen ffurflen enwebu ar wahân ar gyfer pob categori.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Rydym yn falch o ddathlu llwyddiannau rhyfeddol ein mabolgampwyr, ein hyfforddwyr a'n gwirfoddolwyr lleol trwy Wobrau Chwaraeon Actif Sir Gâr. Mae'r unigolion a'r timau hyn yn hanfodol o ran cadw chwaraeon yn fyw ac yn ffynnu yn ein cymunedau, ysbrydoli eraill ac arddangos y dalent sydd gennym yma yn Sir Gâr. Rwy'n annog pawb i fanteisio ar y cyfle i enwebu'r rhai sydd wir yn gwneud gwahaniaeth, fel y gallwn gydnabod ac anrhydeddu eu hymroddiad a'u hangerdd."
Bydd yr enwebiadau'n cau ddydd Sul, 3 Tachwedd.
I gael rhagor o wybodaeth neu i gyflwyno enwebiad, ewch i wefan Gwobrau Chwaraeon Actif Sir Gâr yma.