Dros £500,000 o fuddsoddiad i gynnal a gwella cyfleusterau chwaraeon yn Sir Gâr
94 diwrnod yn ôl
Wrth i'r tymor chwaraeon newydd ddechrau, bydd gwelliannau i gyfleusterau chwaraeon yn y Sir, a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, yn rhoi hwb i lawer o dimau.
Un o'r gwelliannau mwyaf fydd datblygu cae chwaraeon 3G newydd yng Nghlwb Rygbi Llanymddyfri. Dyma fenter dan arweiniad y gymuned a fydd ar gael i glybiau chwaraeon ac ysgolion lleol. Mae'r gwelliannau ychwanegol yn cynnwys llifoleuadau LED, man gwylwyr a llwybrau newydd o amgylch y cae. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y datblygiad hwn ar ein gwefan.
Mae Swyddogion Cymunedau Actif wrth law i gynorthwyo clybiau chwaraeon a gwirfoddolwyr yn Sir Gâr, gan eu helpu i ffynnu a chryfhau. Mae eu cefnogaeth yn cynnwys cymorth o ran grantiau a chyllid, marchnata a hyrwyddo, recriwtio aelodau newydd, gwirfoddolwyr a rheolaeth gyffredinol. Os ydych yn credu y gallai eich clwb chwaraeon elwa ar gael cymorth, ewch i wefan Chwaraeon a Hamdden Actif i gael rhagor o wybodaeth.
Mae Chwaraeon Cymru yn dosbarthu cyllid i glybiau cymunedol, gwirfoddolwyr ac athletwyr ar draws y Sir. Gall tîm grantiau arbenigol Chwaraeon Cymru ddarparu gwybodaeth a chynorthwyo o ran ystod o anghenion ariannu, er enghraifft sefydlu tîm newydd, gwella cyfleusterau a chefnogi athletwyr unigol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy fynd i.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Mae buddsoddi yng nghlybiau chwaraeon ein Sir yn ffordd wych o annog y gymuned i fyw bywydau iachach a mwy egnïol trwy gymryd rhan mewn chwaraeon clwb. Mae'r cyllid hwn yn golygu y gall y Cyngor wneud gwaith angenrheidiol a gwella profiad defnyddwyr a gwylwyr yn lleoliadau chwaraeon Sir Gâr.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cefnogi rhagor o gyfleusterau chwaraeon ledled Sir Gâr. I gael gwybod rhagor, cliciwch ar y dolenni isod:
- Clwb Pêl-droed Tref Caerfyrddin: Gosod llifoleuadau LED newydd ar y cae, paneli solar a system sain newydd ar gyfer y clwb chwaraeon. Cynllun Adnewyddu Llifoleuadau 2023 (llyw.cymru)
- Clwb Pêl-droed Cwmaman: Mae pedair elfen allweddol i'r prosiect: Goleuadau LED, diweddaru'r ystafelloedd newid gyda phaneli solar a batri, datblygu cae bach a phlannu cant o goed.
Parc Grenig: Llwybr at Gynaliadwyedd (llyw.cymru) - Clwb Rygbi Felin-foel: Bydd y prosiect hwn yn cynnwys gosod bylbiau LED a gwifrau trydanol newydd ar y llifoleuadau ar gaeau chwarae Brenin Siôr V.Llifoleuadau Clwb Rygbi Felin-foel (llyw.cymru)
- Clwb Rygbi'r Tymbl: Defnyddiwyd y cyllid i benodi tîm proffesiynol o arbenigwyr i oruchwylio datblygiad y prosiect, a'r nod yw adeiladu cyfleuster cymunedol newydd i ategu'r ddarpariaeth bresennol.Datblygu Cyfleuster Cymunedol newydd (llyw.cymru)
- Clwb Golff Glynhir
Mae’r cyllid wedi galluogi'r clwb i ddarparu cwrs chwe thwll ac ardal ymarfer newydd yn ogystal â gwell mynediad i gerddwyr, i bobl â chadeiriau gwthio a defnyddwyr cadeiriau olwyn drwy gydol y flwyddyn. Prosiect Cyfranogi a Chwrs Glynhir (llyw.cymru) - Clwb Rygbi Pont-iets Cyf: Gwella draeniad y prif gae a gosod llifoleuadau LED newydd. Rhagwelir y bydd hyn yn cynyddu nifer y chwaraewyr yn uniongyrchol ymhlith yr adrannau mini ac iau.Clwb Rygbi Pont-iets Cyf (llyw.cymru)
- Clwb Rygbi Brynaman: Bydd cyfleusterau’r ystafelloedd newid newydd yn cynnwys loceri newydd, meinciau, cyfleusterau cawod, goleuadau a system awyru.Adnewyddu'r Ystafelloedd Newid Cymunedol presennol (llyw.cymru)
- Cymdeithas Gymunedol Parc Stephens: Bydd y prosiect hwn yn cefnogi cam 1 o'r gwaith o wneud gwelliannau, cynnal astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer cyfleusterau chwaraeon newydd gan gynnwys cyfleuster hyfforddi newydd â llifoleuadau ar gyrtiau tenis Parc Stephens.Cymdeithas Gymunedol Parc Stephens (llyw.cymru)
- Cymdeithas Les Pen-y-banc: Bydd y prosiect hwn yn cynnwys gosod llifoleuadau LED newydd, gwella'r clwb a chynyddu nifer y bobl ifanc sy'n defnyddio'r cyfleuster.Cymdeithas Les Pen-y-banc (llyw.cymru)
- Clwb Rygbi Pontyberem: Bydd llifoleuadau newydd yn gwella cyfleusterau chwaraeon y clwb ac yn cynyddu nifer y gemau sy'n gallu cael eu cynnal gyda'r nos.Llifoleuadau Clwb Rygbi Pontyberem (llyw.cymru)
- Cyngor Cymuned Llan-non: Bydd y prosiect yn cynorthwyo o ran ariannu astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer gwelliannau ym Mharc Cross Hands. Bydd yr Astudiaeth yn ystyried ystafell newid newydd, cyfleusterau cawod, cae chwarae naturiol, gwella draeniad y caeau presennol, toiledau cyhoeddus a gofod cymunedol newydd. Ailddatblygu Parc Cross Hands – Astudiaeth Ddichonoldeb a Phrif Gynllun (llyw.cymru)
- Canolfan Carwyn: Crëwyd campfa gymunedol newydd yn y ganolfan i gefnogi llesiant corfforol, meddyliol ac emosiynol y gymuned. Rhaglen Llesiant Cymunedol (llyw.cymru)