Dros £500,000 o fuddsoddiad i gynnal a gwella cyfleusterau chwaraeon yn Sir Gâr

14 diwrnod yn ôl

Wrth i'r tymor chwaraeon newydd ddechrau, bydd gwelliannau i gyfleusterau chwaraeon yn y Sir, a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, yn rhoi hwb i lawer o dimau.

Un o'r gwelliannau mwyaf fydd datblygu cae chwaraeon 3G newydd yng Nghlwb Rygbi Llanymddyfri. Dyma fenter dan arweiniad y gymuned a fydd ar gael i glybiau chwaraeon ac ysgolion lleol. Mae'r gwelliannau ychwanegol yn cynnwys llifoleuadau LED, man gwylwyr a llwybrau newydd o amgylch y cae. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y datblygiad hwn ar ein gwefan.

Mae Swyddogion Cymunedau Actif wrth law i gynorthwyo clybiau chwaraeon a gwirfoddolwyr yn Sir Gâr, gan eu helpu i ffynnu a chryfhau. Mae eu cefnogaeth yn cynnwys cymorth o ran grantiau a chyllid, marchnata a hyrwyddo, recriwtio aelodau newydd, gwirfoddolwyr a rheolaeth gyffredinol. Os ydych yn credu y gallai eich clwb chwaraeon elwa ar gael cymorth, ewch i wefan Chwaraeon a Hamdden Actif i gael rhagor o wybodaeth.

Mae Chwaraeon Cymru yn dosbarthu cyllid i glybiau cymunedol, gwirfoddolwyr ac athletwyr ar draws y Sir. Gall tîm grantiau arbenigol Chwaraeon Cymru ddarparu gwybodaeth a chynorthwyo o ran ystod o anghenion ariannu, er enghraifft sefydlu tîm newydd, gwella cyfleusterau a chefnogi athletwyr unigol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy fynd i.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

 Mae buddsoddi yng nghlybiau chwaraeon ein Sir yn ffordd wych o annog y gymuned i fyw bywydau iachach a mwy egnïol trwy gymryd rhan mewn chwaraeon clwb. Mae'r cyllid hwn yn golygu y gall y Cyngor wneud gwaith angenrheidiol a gwella profiad defnyddwyr a gwylwyr yn lleoliadau chwaraeon Sir Gâr.

 Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cefnogi rhagor o gyfleusterau chwaraeon ledled Sir Gâr. I gael gwybod rhagor, cliciwch ar y dolenni isod: