Dim ond Aur sy'n gwneud y tro ar gyfer Paralympiaid Sir Gâr

102 diwrnod yn ôl

Yn dilyn seremoni gloi Gemau Paralympaidd Paris 2024, mae Sir Gâr gyfan yn hynod falch o'i dau Baralympiaid; Steffan Lloyd, y para-feiciwr, a Matt Bush, yr athletwr para-taekwondo. Mae Steffan a Matt yn dychwelyd i Gymru yn enillwyr medalau aur.

Mae Matt Bush o Sanclêr yn dychwelyd o Baris yn Bencampwr Paralympaidd, ar ôl trechu'r athletwr paralympaidd niwtral, Aliaskhab Ramazanov, 5-0, yn rownd derfynol cystadleuaeth K44 +80kg y dynion. I gydnabod ei gamp, Matt hefyd oedd yn cario baner Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn y seremoni gloi.

Enillodd Steffan Lloyd, a gafodd ei addysgu yn Ysgol Gyfun Emlyn, fedal aur fel peilot i'w gyd-Gymro, James Ball, ym mhrawf amser 1000m B y dynion.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

Llongyfarchiadau i Matt a Steffan ar eu llwyddiant rhyfeddol.
Mae Sir Gâr yn llawn balchder oherwydd ei dau Baralympiaid, sydd ill dau wedi ennill medal aur ac rydym yn edrych ymlaen at ddathlu eu llwyddiant yn swyddogol, ynghyd ag Olympiaid y sir, yn ddiweddarach eleni. Da iawn chi!”