Dechrau adolygiad annibynnol o ddarpariaeth addysg arbennig Llanelli

107 diwrnod yn ôl

Mae'r gwaith o wella cyfleusterau addysg arbennig yn Llanelli wedi dechrau. Mae David Davies, cyn-bennaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Lles Cyngor Bro Morgannwg, wedi cael ei gomisiynu gan Gyngor Sir Caerfyrddin i arwain adolygiad annibynnol o'r ddarpariaeth arbenigol bresennol ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn Llanelli.

O'r wythnos nesaf, 9 Medi 2024, bydd yr ymgynghorydd annibynnol yn cwrdd â dysgwyr, rhieni, staff, llywodraethwyr a rhanddeiliaid ehangach i wrando ar eu sylwadau a'u cymryd i ystyriaeth. Bydd yr holl gynigion a gaiff eu datblygu yn y dyfodol, yn dilyn yr adolygiad annibynnol, yn destun ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar yr adeg briodol.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo'n llwyr i ddarparu'r cyfleusterau addysg gorau un ac i wella'r cyfleusterau i'w holl ddisgyblion ADY. Tra bo'r awdurdod yn aros i gael adroddiad David Davies er mwyn penderfynu ar ei ddarpariaeth ADY yn Llanelli yn y tymor canolig i'r tymor hir, mae'r Cyngor Sir yn buddsoddi bron i £0.5 miliwn i wella'r cyfleusterau presennol yn Ysgol Heol Goffa.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, y Cynghorydd Glynog Davies:

Mae darparu'r addysg orau posib i'n dysgwyr ADY yn hollbwysig i ni fel Cyngor ac i Gorff Llywodraethu Ysgol Heol Goffa.
Gyda'n gilydd, rydym wedi bod yn gweithio i sicrhau bod anghenion y plant a'u teuluoedd yn cael eu diwallu, yn y tymor byr - drwy'r buddsoddiad hwn o bron i £0.5 miliwn yn adeilad yr ysgol, ac yn y tymor canolig i'r tymor hir drwy'r adolygiad annibynnol o ddarpariaeth ADY yn Llanelli.
Rydym wedi gofyn i'r ymgynghorydd annibynnol lunio ystod o opsiynau wedi'u costio i'r Cyngor, i ni eu hystyried. Ein gobaith yw cael yr adroddiad hwn yn y misoedd nesaf, fel y gallwn wneud penderfyniad cyn gynted ag y bo modd.
Fel sy'n hysbys erbyn hyn, yn anffodus roedd costau adeiladu cynyddol, ffactor sydd y tu hwnt i'n rheolaeth, yn golygu nad oeddem wedi gallu bwrw ymlaen â'r tendr i adeiladu'r ysgol arbennig arfaethedig ar gyfer Heol Goffa. Yn unol â dymuniad y rhieni, rydym wedi gwneud cais ffurfiol i Lywodraeth Cymru ariannu'r cynnydd yn y costau adeiladu yn llawn, ond mae'r Llywodraeth wedi cadarnhau na all wneud hynny.
Mae ein hymroddiad i fuddsoddi i wella'r ddarpariaeth ADY yn Llanelli cyn gryfed ag erioed, ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Chorff Llywodraethu Ysgol Heol Goffa er mwyn darparu addysg o'r radd flaenaf i'n dysgwyr.”