Cyngor yn cymeradwyo ailstrwythuro benthyciad y Scarlets
99 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymeradwyo cynlluniau i ailstrwythuro'r benthyciad presennol sy'n ddyledus gan Scarlets Regional Ltd. Cyflwynwyd y cynnig i gynghorwyr yn ystod cyfarfod y Cyngor Sir heddiw, ddydd Mercher, 11 Medi 2024.
O dan y cytundeb newydd, bydd y benthyciad yn cael ei newid yn fenthyciad ad-dalu a bydd cyfnod y benthyciad, sy'n werth £2.616m ar hyn o bryd, yn cael ei ymestyn am 15 mlynedd (o 1 Ebrill 2023) a'i ad-dalu ar sail rhandaliadau cyfartal, gyda'r gwerth yn £218,000 y flwyddyn. Bydd taliadau yn cael eu gohirio am 3 blynedd ac yn dechrau yn 2026.
Bydd angen talu llog ar y benthyciad o hyd drwy gydol cyfnod y benthyciad a bydd yn cael ei osod ar gyfradd o 2.2% yn uwch na chyfradd sylfaenol y banc, sy'n talu cost y benthyca i'r Cyngor Sir.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau – y Cynghorydd Alun Lenny:
Rydym yn falch o allu ymestyn ein cefnogaeth i'r Scarlets yn ystod y cyfnod mwyaf anodd hwn i rygbi rhanbarthol yng Nghymru. Mae gweithgarwch y clwb yn gwneud cyfraniad economaidd sylweddol i Sir Gaerfyrddin, felly mae'n hanfodol sicrhau ei fod yn gynaliadwy. Gallai mynnu ad-dalu'r benthyciad nawr beryglu dyfodol y clwb, a fyddai'n effeithio ar tua 160 o swyddi llawn amser a bron i 250 o swyddi rhan-amser.
Yn ogystal â hyn, mae tua 87 o gwmnïau lleol yn cyflenwi nwyddau a gwasanaethau i'r Scarlets, ac mae'r budd i bobl ifanc yn ein hysgolion a'n colegau sy'n dod drwy'r system academi yn anfesuradwy.Mae'r clwb hefyd yn darparu sesiynau sgiliau a chyfleoedd chwaraeon eraill i dros 20,000 o ddisgyblion yn ein hysgolion - gan gynnwys digwyddiadau i blant ag anableddau, a gwersylloedd mewn ardaloedd difreintiedig yn gymdeithasol. Gan weithio ochr yn ochr â Chyngor Tref Llanelli, mae'r Scarlets hefyd yn darparu sesiynau ar gyfer cymunedau ethnig, ar adeg pan mae eraill yn ceisio creu tensiynau hiliol.
Mae'r Scarlets yn rhan enfawr o ffabrig chwaraeon, cymdeithasol ac economaidd Sir Gaerfyrddin, mae gan y clwb hunaniaeth ranbarthol gref ac mae'n gartref i frand rygbi rhyngwladol eiconig. Mae ei stadiwm, Parc Y Scarlets, hefyd yn gatalydd ar gyfer cryn dipyn o weithgarwch economaidd a chymdeithasol.
Gadewch i mi fod yn hollol glir, nid yw'r benthyciad hwn wedi costio'r un geiniog i drethdalwyr cyngor Sir Gaerfyrddin.Mae'r llog sy'n cael ei dalu gan y Scarlets wedi bod yn un teg i'r awdurdod hwn, sydd wedi talu'r cost i'r Cyngor.
Mae rhai pobl wedi gofyn pam y dylai'r Cyngor Sir ddefnyddio arian cyhoeddus i achub clwb chwaraeon. Byddwn yn pwysleisio bod y benthyciad gwreiddiol o £2.4m wedi'i wneud bron 17 mlynedd yn ôl.Nid yw'n arian newydd, ac nid yw'n arian y mae'r Cyngor yn debygol o'i gael yn ôl pe byddem yn mynnu bod y benthyciad yn cael ei dalu'n ôl.Nid yw'n arian sydd ar gael i ni tuag at bethau eraill, fel llenwi tyllau neu adeiladu ysgol newydd, a fyddai'n costio llawer, llawer yn fwy.
Er bod y benthyciad cychwynnol, y cytunwyd arno gan y Cyngor Sir yn 2007, wedi aeddfedu a bod y Cyngor Sir wedi adennill llog drwy gydol y cyfnod ar yr arian a fenthycwyd, rydym wedi ymrwymo i gefnogi'r Scarlets a rygbi elît yma yn Sir Gaerfyrddin heb unrhyw gost i dalwyr y dreth gyngor."