Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithredu ar droseddau amgylcheddol ym mis Awst 2024
96 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadarnhau ei ymroddiad i sicrhau amgylchedd glân a diogel drwy gyflwyno sawl Hysbysiad Cosb Benodedig (FPNs) a cham gorfodi drwy gydol mis Awst 2024. Mae'r camau hyn yn mynd i'r afael â thorri rheoliadau amgylcheddol, gan gynnwys sbwriel, tipio anghyfreithlon, gwaredu gwastraff amhriodol, a gadael cerbydau.
Troseddau Gollwng Sbwriel - Hysbysiadau Cosb Benodedig o £125
Rhoddodd y Tîm Gorfodi Materion Amgylcheddol Hysbysiadau Cosb benodedig o £125 am ystod o droseddau gollwng sbwriel ar draws y sir.
- Cyfleuster Ailgylchu Morrisons, Trostre: Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig i fenyw o Benlan, Bryn, Llanelli am adael bag yn cynnwys plât ar y llawr.
- Cyfleuster Ailgylchu Morrisons, Llanelli: Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig i fenyw o Heol Gŵyr, Llanelli am adael bag du yn cynnwys ffan ar y safle.
- Cyfleuster Ailgylchu Porth Tywyn: Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig i fenyw o Heol y Gwendraeth, Porth Tywyn am adael bocs cardbord ar y llawr.
- Cyfleuster Ailgylchu Morrisons, Trostre: Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig i fenyw o Frynhyfryd am ollwng bag o wydr ar y llawr.
- Tesco Extra, Llanelli: Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig i ddyn o Felin-foel am ollwng deunydd pecynnu McDonald’s ger y banciau dillad.
- Safle Casglu Sanclêr: Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig i fenyw o Sanclêr am adael bocs cardbord yn cynnwys gwydr wedi'i dorri ar y llawr.
- Morrisons, Caerfyrddin: Cafodd menyw o Bont-henri ddirwy am adael bag yn llawn o wastraff y cartref yn y cyfleuster ailgylchu.
Gadael Cerbyd - Hysbysiad Cosb Benodedig o £200
- Pwll, Llanelli: Cafodd dyn o Abertawe ddirwy o £200 am adael cerbyd yn ardal y Pwll.
Tipio Anghyfreithlon - Hysbysiad Cosb Benodedig o £400
- Safle Casglu Sanclêr: Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig o £400 i ddyn o Dref Caerfyrddin am dipio’n anghyfreithlon nifer o focsys cardbord, llyfrau a gwastraff cartref, gan gynnwys bag du a glas, ar y safle.
Troseddau Daliedydd Gwastraff - Hysbysiadau Cosb Benodedig o £100
Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig i amryw o breswylwyr am beidio â chydymffurfio â rheoliadau daliedydd gwastraff.
- Caerfyrddin (Heol y Sycamorwydd) Cafodd menyw ddirwy am osod ei gwastraff allan i'w gasglu ar y diwrnod anghywir.
- Rhydaman: Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig i breswylydd am osod gwastraff yn y man anghywir.
- Llanelli (Stryd Burry): Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig i fenyw am osod eitemau budr, gan gynnwys padiau cŵn bach wedi'u defnyddio, mewn bagiau ailgylchu glas ac am osod gwastraff allan ar yr amser casglu anghywir.
- Caerfyrddin (Trem y Bryn): Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig i fenyw am osod eitemau halogedig a gwydr mewn bagiau ailgylchu glas.
- Llanelli (Heol Yr Orsaf): Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig i fenyw am osod gwastraff halogedig mewn bagiau glas ar y diwrnod a'r amser anghywir.
- Llanelli (Stryd Stafford): Rhoddwyd Hysbysiadau Cosb Benodedig i ddwy fenyw am osod eitemau budr a gwastraff bwyd mewn bagiau ailgylchu glas.
- Llanelli (Stryd Burry): Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig i fenyw arall am osod tecstilau ac eitemau budr mewn bagiau glas ac am osod gwastraff allan ar yr amser casglu anghywir.
- Caerfyrddin (Trem y Bryn): Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig i breswylydd am osod bagiau glas a du allan i'w casglu ar y diwrnod anghywir ac am halogi bagiau ailgylchu glas.
Erlyniadau
Fe wnaeth Cyngor Sir Caerfyrddin erlyn dau berson yn llwyddiannus am droseddau gollwng sbwriel:
- Heol Dŵr, Caerfyrddin: Ar 3 Ionawr 2024, gwelwyd Mr. Martin Robert Tucker o Benrhiw-llan, Llandysul yn taflu stwmpyn sigarét allan o'i gerbyd. Er iddo gael cynnig y cyfle i dalu Hysbysiad Cosb Benodedig o £125, methodd Mr. Tucker â gwneud hynny. Cyfeiriwyd yr achos at yr ynadon, gan arwain at ddirwy o £270, £300 mewn costau, a gordal dioddefwr o £88.
- Stryd Vaughan Llanelli: Gwelwyd Mr Stuart Allen o Lanelli, yn taflu stwmp sigarét ym mis Ionawr 2024. Ar ôl methu â thalu Hysbysiad Cosb Benodedig o £125, cyflwynwyd yr achos i'r llys. Rhoddwyd wedyn Hysbysiad Cosb Benodedig o £120 i Mr Allen, a gosododd yr ynadon £200 mewn costau llys a gordal dioddefwr o £48.
Hysbysiadau Gorfodi a Gyflwynwyd
Ym mis Awst 2024, cyhoeddodd Cyngor Sir Caerfyrddin:
- 39 o Hysbysiadau Adran 46 o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 am fethu â chydymffurfio â rheoliadau gwaredu gwastraff.
- 12 o Hysbysiadau Adran 47 o dan yr un ddeddf am droseddau sy'n ymwneud â gwaredu gwastraff masnachol a diwydiannol.
Meddai'r Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:
Mae'r camau gorfodi hyn yn dangos ein hymrwymiad parhaus i ddiogelu'r amgylchedd. Rydym yn annog preswylwyr i gydymffurfio â rheoliadau gwaredu gwastraff ac i roi gwybod am unrhyw droseddau."
Anogir preswylwyr i roi gwybod am dipio anghyfreithlon neu unrhyw achos arall o dorri rheolau amgylcheddol drwy wefan y Cyngor neu drwy ffonio 01267 234567.