Colli Ysgol: Colli Cyfle

109 diwrnod yn ôl

Mae plant a phobl ifanc ym mhob cwr o Sir Gâr yn paratoi i ddychwelyd i'r ysgol yr wythnos hon, ar gyfer dechrau blwyddyn ysgol newydd sbon.

Yn barod ar gyfer y dychweliad mawr, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn lansio ei ymgyrch Colli Ysgol: Colli Cyfle, a'r nod yw atgoffa ac annog plant, pobl ifanc a'u teuluoedd nad yw'n dderbyniol colli ysgol ar ddiwrnod penodol, neu am gyfnod penodol o amser.

Dylai plentyn fynychu'r ysgol am nifer o resymau, gan gynnwys cwrdd â'i ffrindiau, meithrin perthnasoedd, a gwneud y mwyaf o gyfleoedd i ddysgu a datblygu.

Mae presenoldeb ysgol rhagorol yn caniatáu i blentyn ddatblygu fel dysgwr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu trwy gydol ei fywyd.

Bydd mynd i'r ysgol yn helpu plentyn i gyfrannu mewn modd blaengar a chreadigol, bod yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith, ac aeddfedu fel dinesydd moesegol, hyddysg yng Nghymru a'r byd.

Mae plant a phobl ifanc hefyd yn fwy tebygol o ddod yn unigolion iach a hyderus os ydynt yn mynychu'r ysgol, yn barod i fyw bywydau cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Mae'r Cyngor Sir yn deall bod gan rai plant anghenion cymhleth a rhesymau penodol pam ei bod ar rai adegau yn anodd iddynt fynychu’r ysgol. Gall pob un o'n hysgolion gefnogi plentyn a rhiant/rhieni neu warcheidwaid i fynd i'r afael â'r anawsterau hynny.

Yn Sir Gaerfyrddin, nid yw presenoldeb mewn ysgolion mor uchel eto ag yr oedd cyn COVID. Drwy'r ymgyrch Colli Ysgol: Colli Cyfle, bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i weithio gyda rhieni a gwarcheidwaid, ysgolion, athrawon a staff cymorth i wella presenoldeb ysgolion er lles Sir Gaerfyrddin, ein plant a'n pobl ifanc yn y dyfodol.

Mae gwella presenoldeb ysgol yn Sir Gaerfyrddin yn cyd-fynd ag amcan llesiant cyntaf Cyngor Sir Caerfyrddin, sef galluogi ein plant a'n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.

Os nad yw eich plentyn yn mynd i'r ysgol yn rheolaidd, efallai y bydd pryderon ynghylch materion diogelu yn cael eu codi am ei les a'i gynnydd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg - y Cynghorydd Glynog Davies:

Mae presenoldeb rhagorol yn yr ysgol yn caniatáu i blentyn gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. Mae pob diwrnod ysgol yn cyfrif, efallai nad yw colli ambell ddiwrnod yma ac acw yn edrych yn llawer, ond o'u rhoi nhw at ei gilydd mae'n stori wahanol. Mae colli dau ddiwrnod y mis yn gyfystyr â 4 wythnos y flwyddyn, sy'n golygu colli blwyddyn o ddysgu o Flwyddyn 1 i Flwyddyn 13.
“Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at groesawu ein dysgwyr, athrawon a staff cymorth yn ôl i'r ysgol ac i amgylchedd dysgu hapus a chroesawgar. Pan fydd plentyn yn colli'r ysgol, mae'n colli cyfleoedd, ac mae hynny'n golygu bod dysgu a datblygu yn anoddach i blentyn.”

I gael gwybod mwy am ymgyrch Cyngor Sir Caerfyrddin i gynyddu presenoldeb ysgol, ewch i'r dudalen we Colli Ysgol: Colli Cyfle.