Cartref preswyl Awel Tywi yn dathlu pen-blwydd yn 50 oed
86 diwrnod yn ôl
Yn ddiweddar dathlodd preswylwyr, staff a ffrindiau cartref preswyl Awel Tywi yn Llandeilo ben-blwydd y cartref yn 50 oed.
Gan nodi'r achlysur drwy gael te prynhawn ac adloniant, canodd y preswylwyr ganeuon a chawsant eu diddanu hefyd gan y canwr lleol Alan Thomas a disgyblion o Ysgol Gynradd Ffairfach a gyflwynodd hefyd gerdyn wedi'i wneud â llaw i'r preswylwyr.
Cyflwynodd Cymdeithas Cyfeillion Awel Tywi, sef grŵp o bobl leol sydd â chysylltiad â'r cartref sy'n ymweld yn rheolaidd, yn trefnu gweithgareddau ac yn diddanu'r preswylwyr, blât wedi'i baentio â llaw i nodi'r achlysur. Wedi'i wneud gan yr artist lleol Kate Glanville, bydd y plât yn cael ei arddangos yn y cartref am flynyddoedd i ddod i goffáu'r pen-blwydd.
Cafodd cacen a grëwyd gan aelod o staff Awel Tywi ei thorri gan y preswylydd Mary Keir a'i mwynhau gan bawb.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
Roeddwn wrth fy modd yn mynychu dathliad pen-blwydd Awel Tywi yn 50 oed. Diolch i aelodau staff y cartref am sicrhau bod y digwyddiad mor arbennig ac i bawb a gymerodd ran."
Wedi'i agor fel cartref preswyl ym 1974, mae gan yr hen Wyrcws 38 o welyau a 56 aelod o staff.