Bouygues UK yn gweithio mewn partneriaeth â’r cwmni recriwtio Acorn by Synergie a chontractwyr lleol i greu cyfleoedd am swyddi lleol ym mhrosiect Pentre Awel yn Llanelli

101 diwrnod yn ôl

Mae canolfan gyflogaeth Pentre Awel Bouygues UK ac Acorn by Synergie wedi creu nifer o gyfleoedd gyrfa ym maes adeiladu ar y prosiect nodedig yn Sir Gaerfyrddin. 

Y datblygiad arloesol, sy’n werth miliynau o bunnoedd, ac a gaiff ei gyflwyno gan Gyngor Sir Gâr, yw’r cynllun adfywio mwyaf yn Ne-orllewin Cymru.

Mae’r ganolfan gyflogaeth wedi rhoi cyfle i bobl leol gael gwybod am swyddi posibl mewn crefftau ym maes adeiladu ar y safle, yn ogystal â’u cefnogi gyda hyfforddiant a sgiliau.

Mae Lawrence Beach, Cyfarwyddwr Datblygu Cleientiaid Acorn by Synergie, wedi cynnal sesiynau rheolaidd ar y safle, gan alluogi pobl ddi-waith o’r gymuned leol i ddod draw a dysgu mwy am Bentre Awel:

Mae’r ganolfan gyflogaeth yn rhoi cyfle i bobl ddi-waith ddod i weld sut le yw'r safle, a gweld a oes unrhyw gyfleoedd a allai fod o ddiddordeb iddyn nhw o fewn y gwahanol grefftau sy'n bresennol ar y safle.
Mae Pentre Awel yn safle anferth, ac mae dod yma’n rhoi gwir flas i bobl o sut beth fyddai gyrfa ym maes adeiladu. Mae croeso i bawb, mae’n anffurfiol ac yn hamddenol iawn, a dyma’r cyfle perffaith i bobl sy’n meddwl y bydden nhw’n mwynhau gweithio ar y safle ddod i’w weld drostyn nhw eu hunain.

Ychwanegodd Lawrence:

Rydyn ni’n cynnal sesiynau holi ac ateb sy’n para dwy i dair awr; mae’r rhain nid yn unig yn rhoi’r cyfle i bobl ddysgu am yr holl grefftau gwahanol ar safle, ond hefyd yn rhoi syniad inni o’r hyn a allai gweddu i’r person hwnnw hefyd, er mwyn inni allu paru’r bobl iawn â’r crefftau iawn. Mae’n gydweithredol a chefnogol iawn.

Mae Geraldine Evans, 32, o Ddafen, Llanelli yn gweithio fel labrwr safle i Massey Cladding Solutions, sy’n bartneriaid yn y gadwyn gyflenwi ym Mhentre Awel. Yn ddiweddar, dyfarnwyd Gweithiwr y Mis iddi am ei hymdrechion. Roedd ganddi ddiddordeb mewn gweithio ym maes adeiladu, felly aeth i’r ganolfan gyflogaeth a'i chael yn groesawgar iawn.

Meddai:

Rwy’n mwynhau’r gwaith yn fawr. Mae digon o waith i'w wneud, ac rwy'n ei hoffi oherwydd fy mod i’n hoffi bod yn brysur ac rwy'n mwynhau gweithio i Masseys a'u tîm safle (rheolwyr a gweithwyr). Mae amgylchedd gwaith da iawn ac mae pawb yn fy nhrin â pharch. Roedd hefyd yn hyfryd derbyn y wobr iechyd a diogelwch am y mis, sy’n rhywbeth nad wyf erioed wedi’i chael o’r blaen.

Meddai cynghorydd gwerth cymdeithasol Bouygues UK, Nina Williams, am y ganolfan:

Mae’r ganolfan gyflogaeth wedi bod yn arf hanfodol i’n helpu i ymgysylltu â phobl leol sy’n chwilio am waith neu’r rhai sydd â diddordeb mewn ymuno â’r diwydiant. Mae rhoi'r cyfle i bobl ddod ar y safle yn golygu eu bod nhw wir yn gallu cael ymdeimlad o sut mae pethau'n gweithio yma a chanfod a yw adeiladu yn rhywbeth sy'n apelio atyn nhw. Mae’n wych gweld pa mor dda mae Geraldine yn ei wneud, a sut mae hi wedi ymgynefino yn y tîm.

Yn ogystal â chefnogi cyfleoedd cyflogaeth lleol drwy’r ganolfan gyflogaeth, mae Bouygues UK hefyd yn cefnogi cyfleoedd prentisiaeth mewn partneriaeth â Choleg Sir Gâr a Chynllun Prentisiaethau Sgiliau Adeiladu ar y Cyd Cyfle. Trwy Cyfle, mae Bouygues UK a Whiteheads Building Services yn cefnogi 10 prentisiaeth drydanol a phlymio, a fydd yn galluogi mwy o brentisiaid i ymuno â’r diwydiant a gweithio gyda nifer o gyflogwyr lleol gwahanol.

Meddai Harrison Griffiths, un o brentisiaid Technegol Cyfle sydd ar leoliad hirdymor gyda Bouygues UK ym Mhentre Awel ar hyn o bryd:

Mae gwneud prentisiaeth yn ffordd ddelfrydol o gael dechrau yn y diwydiant, ac mae wedi bod yn wych gweithio ar gynllun o fri mor fawr. Rwyf wrth fy modd yn bod yn rhan o'r tîm ar y safle a dysgu popeth y galla i am sut mae safle'n gweithio a'r gwaith sy'n digwydd i adeiladu prosiectau mawr. Byddwn i’n annog unrhyw un sy’n meddwl am yrfa ym maes adeiladu i ystyried prentisiaeth.

Meddai’r Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Gâr dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

Mae cynyddu cyflogaeth yn un o amcanion allweddol y Cyngor Sir, ac yn sbardun sylweddol ar gyfer y cam hwn o ddatblygiad Pentre Awel. Rydym yn falch bod y Ganolfan Gyflogaeth wedi bod yn llwyddiannus wrth ymgysylltu â phobl leol sydd â diddordeb yn y diwydiant, ac yn gobeithio y bydd hyn yn rhoi syniad i bobl leol o sut y gall Pentre Awel fod o fudd iddynt yn y dyfodol.