Barn yn helpu i lunio cynllun trafnidiaeth rhanbarthol

100 diwrnod yn ôl

Mae dros 800 o farnau wedi'u cyflwyno i helpu i lunio dyfodol trafnidiaeth yn Ne-orllewin Cymru.

Gwahoddwyd preswylwyr a busnesau ledled Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe i roi adborth fel rhan o ymgynghoriad ar ddadl dros newid mewn perthynas â’r cynllun trafnidiaeth rhanbarthol.

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad gan Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, ac roedd y cwestiynau ynddo'n ceisio barn pobl am rwydwaith bysus a threnau'r rhanbarth yn ogystal â'i lwybrau cerdded a beicio.

Roedd cwestiynau eraill yn canolbwyntio ar hygyrchedd, ystyriaethau amgylcheddol a ph’un a yw'r rhwydwaith trafnidiaeth presennol yn diwallu anghenion busnesau.

Bydd yr holl adborth a dderbyniwyd yn helpu i ddatblygu cynllun trafnidiaeth rhanbarthol a fydd yn destun ymgynghoriad yn y dyfodol.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Cydbwyllgor Corfforedig (CBC) De-orllewin Cymru:

Gwyddom fod yn rhaid i'r rhwydwaith trafnidiaeth ar draws De-orllewin Cymru wella er budd preswylwyr a busnesau, a mynd bob yn gam â’r buddsoddiad sylweddol cyfredol.

Mae cynllun trafnidiaeth rhanbarthol yn cael ei ddatblygu i helpu i ddiwallu anghenion pobl yn well, wrth ystyried hefyd ystyriaethau allweddol fel hygyrchedd, fforddiadwyedd a newid yn yr hinsawdd.

Meddai'r Cyng. Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Gâr a Chadeirydd is-grŵp trafnidiaeth y CBC:

Mae trafnidiaeth yn rhywbeth sy'n effeithio ar bob un ohonom, a dyna pam y cyflwynwyd y ddadl dros newid mewn perthynas â'r cynllun trafnidiaeth rhanbarthol i'r cyhoedd roi adborth arno.

Hoffem ddiolch i'r holl breswylwyr a busnesau a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad diweddar, a bydd rhagor o gyfleoedd i bobl gael dweud eu dweud ar gael yn y dyfodol unwaith y datblygir cynllun drafft manylach.

Mae Cydbwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn cynnwys Arweinwyr Cyngor Sir Gâr, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Abertawe, yn ogystal ag uwch-gynrychiolwyr awdurdodau Parciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Sir Benfro.

Mae is-grwpiau hefyd wedi'u sefydlu i gyfrannu gwybodaeth i'r pwyllgor am y themâu gan gynnwys trafnidiaeth.