Y Cyngor yn parhau i weithio i leihau eiddo gwag yn Sir Gaerfyrddin

130 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i ddod â mwy o gartrefi gwag yn ôl i ddefnydd ledled y sir gyda chymorth y Fframwaith Eiddo Gwag.

Wedi'i gyflwyno yn 2023, mae'r Fframwaith yn cyfuno gorfodi, premiymau'r dreth gyngor a chymorth i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd gyda'r nod o:

  • Lleihau nifer y tai gwag hirdymor ar draws y sir
  • Cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy i ateb y galw
  • Mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â niwsans eiddo, anharddwch a'r effaith ar gymunedau

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i weithio gyda pherchnogion eiddo gwag drwy ddarparu cyngor i helpu i defnyddio eiddo unwaith eto a chynnig cymorth ariannol os yw'n berthnasol (yn amodol ar gymhwysedd).

Lle mae perchnogaeth eiddo yn hysbys ac nad yw perchnogion neu ysgutorion ystâd yn fodlon cydweithredu, gellir cymryd camau gorfodi i leihau unrhyw risg a defnyddio'r eiddo unwaith eto.

Cyflwynwyd premiymau'r dreth gyngor ar gyfer cartrefi gwag hirdymor ym mis Ebrill 2024 hefyd, ar gyfer pob cartref sy'n wag am 12 mis a hirach, ynghyd â chael gwared ar ostyngiad o 50% a ddyfarnwyd i dai gwag hirdymor ac mae taliadau treth gyngor llawn yn berthnasol i dai sy'n wag am fwy na chwe mis.

Amlygir y gefnogaeth a ddarperir gan Dîm Eiddo Gwag y Cyngor yn yr astudiaeth achos ddiweddar hon:

Prynwyd eiddo sy'n wag ers tro yng nghanol tref Llanelli gan berchnogion newydd a holodd am y cynllun Benthyciad Troi Tai'n Gartrefi ym mis Gorffennaf 2022. Cafodd yr eiddo ei arolygu gan Ymgynghorydd Tai Gwag i asesu cyflwr yr eiddo ac i drafod yr opsiynau oedd ar gael.

Yn dilyn hyn, cyflwynwyd cais llawn i'r cynllun Troi Tai'n Gartrefi a rhoddwyd cymeradwyaeth ffurfiol. Mae gwaith adnewyddu i'r eiddo yn cael ei wneud ar hyn o bryd, ac ar ôl hynny bydd yr eiddo ar gael ar gyfer y farchnad rentu.

Dywedodd y Cynghorydd Linda Davies Evans, Aelod Cabinet dros Gartrefi:

Rydym yn parhau i weld manteision y Fframwaith Eiddo Gwag sy'n cefnogi gwaith rhagorol ein Hymgynghorwyr Eiddo Gwag, gan ein galluogi i geisio lleihau nifer yr eiddo gwag hirdymor yn y sir.

Byddwn yn annog unrhyw un sy'n berchen ar eiddo gwag yn Sir Gaerfyrddin i gysylltu â'r tîm neu fynd i wefan y Cyngor i ddysgu rhagor am yr ystod eang o gymorth sydd ar gael i helpu i ddefnyddio'r eiddo gwag hyn unwaith eto.”

I gael rhagor o wybodaeth am gynllun benthyciad Troi Tai'n Gartrefi a'r cymorth arall sydd ar gael i berchnogion eiddo gwag, ewch i wefan y Cyngor.