Y Cyngor yn awyddus i dderbyn ceisiadau am gartrefi newydd sbon yn yr hen YMCA, Llanelli

109 diwrnod yn ôl

Mae datblygiad tai diweddaraf Cyngor Sir Caerfyrddin yn yr hen YMCA, Llanelli bellach yn barod ac yn aros am breswylwyr i alw'r fflatiau newydd yn gartref.

Mae'r fflatiau'n cynnwys 8 fflat 2 ystafell wely ar y llawr uchaf y gellir eu cyrraedd drwy fynedfa gymunedol, mae gan bob un ei fan parcio ei hun gyda phwynt gwefru cerbydau trydan ac fe ddatblygwyd y fflatiau i ddarparu llety sy'n effeithlon o ran ynni i bobl leol.

Mae'r Cyngor bellach yn chwilio am geisiadau gan drigolion sy'n cynnwys naill ai un oedolyn sengl, cwpl sy'n byw gyda'i gilydd fel partneriaid neu aelwyd gydag un plentyn sy'n bodloni o leiaf un o'r meini prawf canlynol:

  • Aelwydydd lle mae aelod mewn gwaith llawn amser neu ar incwm ymddeoliad
  • Aelwydydd ag anabledd lle mae aelod yn gweithio'n rhan-amser ac yn gallu fforddio taliadau rhent
  • Aelwydydd lle mae aelod yn gweithio'n rhan-amser ac yn gallu fforddio taliadau rhent
  • Pobl sy'n gweithio yng nghanol tref Llanelli
  • Perchnogion busnesau sefydledig neu fusnesau newydd yn Llanelli
  • Aelwydydd lle mae o leiaf un aelod yn weithiwr allweddol (sy'n gallu dangos bod angen llety arnynt i dderbyn cynnig o gyflogaeth barhaol yn Sir Gaerfyrddin neu ei gynnal)
  • Tenantiaid tai cymdeithasol presennol sy'n tanfeddiannu eu cartref ac sy'n dymuno symud i eiddo llai

Yn y lle cyntaf, bydd ymgeiswyr sy'n gallu dangos cysylltiad cymunedol ag ardal Tref Llanelli sy'n cynnwys wardiau Elli, Bigyn, Tyshia a Glan-y-môr yn cael eu hystyried. Os nad oes unrhyw ymgeiswyr a chanddynt gysylltiad cymunedol, efallai y bydd y Cyngor yn ystyried ymgeiswyr eraill sydd wedi datgan yr hoffent fyw yn y gymuned honno.

Datblygwyd Polisi Gosodiadau Lleol ar gyfer y cartrefi newydd er mwyn sicrhau bod blaenoriaeth yn cael ei rhoi i'r bobl leol sy'n fwyaf addas ar gyfer y cartrefi hyn.

Oherwydd bod gan yr adeilad fynedfeydd cymunedol a bod y llety ar y lloriau uchaf, bydd y cartrefi newydd yn mabwysiadu polisi dim anifeiliaid anwes.

Dywedodd y Cynghorydd Linda Davies Evans, Aelod Cabinet dros Gartrefi: “Rydym bellach am dderbyn ceisiadau ar gyfer y fflatiau modern hyn sy'n effeithlon o ran ynni gan drigolion sydd â chysylltiad lleol â Llanelli ac sy'n bodloni'r meini prawf a nodir yn y Polisi Gosodiadau Lleol.

Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan y rhai sy'n bodloni'r meini prawf ond nad ydynt ar y gofrestr tai ar hyn o bryd."

I fynegi diddordeb yn y cartrefi newydd yn yr hen YMCA, cysylltwch â thîm Dewisiadau Tai y Cyngor drwy ffonio 01554 899389 neu anfonwch e-bost.