Tref Caerfyrddin i elwa ar fuddsoddiad mawr o £500,000

116 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi sicrhau £500,000 drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU i wneud gwaith gwella sylweddol yng Nghanol Tref Caerfyrddin.

Bydd cam cyntaf y gwaith yn cynnwys gosod wyneb newydd ar Heol y Brenin a Heol y Frenhines, gwneud gwaith atgyweirio ar balmentydd a gwelliannau i fynedfa Maes Parcio San Pedr i wella ei ymddangosiad a'i wneud yn fwy hwylus i gerddwyr.  Bydd gwaith pellach yn cael ei wneud ym Maes Nott, Y Clos Mawr, Heol Goch, Stryd y Farchnad, Stryd y Capel a Heol Ioan i wella atyniad canol y dref.

Bydd cam cyntaf y gwaith yn dechrau ddydd Mawrth 27 Awst wrth fynedfa Maes Parcio San Pedr, gyda’r gwaith i osod wyneb newydd ar Heol y Brenin a Heol y Frenhines yn cael ei wneud rhwng 17 a 25 Medi.  Bydd mynediad i gerddwyr yn parhau drwy gydol y gwaith a bydd y siopau a'r busnesau ar agor fel arfer.  Bydd mesurau rheoli traffig yn cael eu rhoi ar waith gan gynnwys cau ffordd ar gyfer y gwaith i ail osod wyneb newydd.

Dywedodd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

Mae'r gwaith hanfodol yn cael ei wneud yng Nghaerfyrddin ar y cyd â Fforwm Adfywio Canol Tref Caerfyrddin ac mae’r prosiectau'n deillio o Uwchgynllun Adfer Canol Tref Caerfyrddin. Rydym am ddiolch i aelodau'r cyhoedd am eu hamynedd wrth i ni wneud y gwaith angenrheidiol.

Bydd rhagor o fanylion am gam nesaf y gwaith yn cael eu darparu maes o law.