Sir Gâr yn dathlu ei Medal Aur gyntaf yng Ngemau Olympaidd Paris

135 diwrnod yn ôl

Llongyfarchiadau i Emma Finucane, enillydd Medal Aur Olympaidd, a gafodd y dechreuad perffaith yn y Gemau Olympaidd nos Lun 5 Awst 2024, gan ennill aur fel rhan o dîm sbrint merched Prydain a Gogledd Iwerddon.

Fe wnaeth y seiclwraig 21 oed, a aned yng Nghaerfyrddin, helpu'r tîm i dorri Record y Byd deirgwaith yn y sesiwn, gydag amser o 45.186 eiliad yn y ffeinal.

Yn ogystal â'i Medal Aur Olympaidd, cafodd Emma ei choroni'n Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Sir Gaerfyrddin yn 2022 a 2023.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

Mae Sir Gâr yn falch iawn o'r tair o'r sir sy'n cystadlu yn y Gemau Olympaidd. Mae campau Emma yn y felodrom nos Lun, nid yn unig wrth ennill medal aur Olympaidd ond hefyd wrth dorri record y byd, yn wirioneddol anhygoel. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ei gweld yn cystadlu eto yn y gystadleuaeth unigol.
Dim ond 17 oed yw Anna Hursey, sydd wedi ei geni yng Nghaerfyrddin, a hi yw'r athletwr cyntaf o Gymru i gystadlu mewn tennis bwrdd yn y Gemau Olympaidd, a bydd Jess Roberts yn cystadlu ar y trac seiclo'r wythnos hon. Llongyfarchiadau i chi i gyd.”