Penodi'r Cynghorydd Carys Jones yn Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cynllunio a Chydlyniant Cymunedol

138 diwrnod yn ôl

Penodwyd y Cynghorydd Carys Jones yn Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Faterion Gwledig, Cynllunio a Chydlyniant Cymunedol yng nghyfarfod y Cabinet ar ddydd Llun 29 Gorffennaf 2024.

Bydd y Cynghorydd Carys Jones yn dechrau yn ei swydd ddydd Iau 1 Awst, a bydd hi'n cymryd drosodd oddi wrth y Cynghorydd Ann Davies wedi iddi gael ei hethol yn Aelod Seneddol yn ddiweddar.

Bydd y Cynghorydd Ann Davies yn parhau am y tro fel Cynghorydd heb fod ar y Cabinet.

Etholwyd y Cynghorydd Carys Jones i Gyngor Sir Caerfyrddin ym mis Mai 2017 ac mae hi'n cynrychioli ward Sanclêr a Llansteffan.

Wrth groesawu'r Cynghorydd Carys Jones i'r Cabinet, dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Darren Price:

Hoffwn longyfarch y Cynghorydd Ann Davies ar gael ei hethol yn Aelod Seneddol Caerfyrddin a diolch iddi am ei gwaith cydwybodol a rhagorol dros y blynyddoedd diwethaf. 
Mae'n bleser gennyf groesawu'r Cynghorydd Carys Jones i'r Cabinet ac edrychaf ymlaen at weithio gyda hi ac adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes wedi'i gyflawni.”