Openreach yn barod i ddod â rhwydwaith cyflym iawn yn ôl i Bentywyn

128 diwrnod yn ôl

Y Cynghorydd Jane Tremlett gyda thîm Openreach ar draeth Pentywyn

Mae Openreach yn dechrau gwaith i adeiladu rhwydwaith band eang cyflym iawn newydd ym Mhentywyn, Sir Gaerfyrddin – gan roi mynediad i drigolion a busnesau i fand eang sydd ymysg y cyflymaf a mwyaf dibynadwy sydd ar gael.  

Yn adnabyddus am ei hanes cyfoethog a’i dirweddau syfrdanol, lle mae nifer o ymdrechion record Cyflymder y Byd dros Dir wedi digwydd dros y blynyddoedd, Pentywyn yw’r pentref diweddaraf yn Sir Gaerfyrddin i symud i gyflymder band eang yr ystyrir ei fod ymhlith y cyflymaf yn Ewrop.   

Wedi'i wneud yn bosibl o ganlyniad i Gynllun Partneriaeth Cymunedol Ffibr Openreach, mae trigolion Pentywyn wedi gwneud cais am Dalebau Gigabit Llywodraeth DU am ddim  sydd wedi cyfrannu at gost yr adeiladu. Mae bron i 70% o’r targed wedi'i gyflawni gan ganiatáu i beirianwyr ddechrau ar y gwaith. Disgwylir i'r band eang cyflym iawn gyrraedd y mwyafrif o gartrefi a busnesau lleol yn y misoedd nesaf.  

Mae band eang ffeibr llawn yn darparu cysylltedd mwy dibynadwy, gwydn sy’n cynnig diogelwch yn y dyfodol; gyda llai o ddiffygion; cyflymderau mwy rhagweladwy, cyson a digon o gapasiti i fodloni gofynion data cynyddol yn hawdd.  

Gall pobl leol ymweld â www.openreach.co.uk/ultrafastfullfibre i gofrestru am ddiweddariadau ac, wrth i'r gwaith adeiladu fynd rhagddo, gwirio eu cyfeiriadau i weld pryd y mae gwasanaethau ar gael gan eu darparwyr dewisedig.   

Gall trigolion ym Mhentywyn wneud cais o hyd am Dalebau Gigabit y Llywodraeth sydd am ddim, a fyddai'n cynyddu'r gronfa arian ymhellach fel bod y rhwydwaith ar gael i fwy o bobl yn yr ardal.  Gallwch wirio a ydych yn gymwys a dewis eich taleb ar wefan Connect My Community. Mae defnyddio’r talebau – nad ydynt yn costio dim i breswylwyr, yn galluogi Openreach i weithio gyda chymuned leol i adeiladu rhwydwaith wedi’i deilwra ac wedi’i ariannu ar y cyd. 

Dywedodd Martin Williams, Cyfarwyddwr Partneriaethau Openreach Cymru   

Mae hwn yn gyfle cyffrous i bobl sy’n byw a gweithio ym Mhentywyn, ac rydym ni’n hapus iawn i allu dod â’r holl fanteision sy’n perthyn i fand eang Ffibr Llawn cyflym iawn a dibynadwy iawn i’r gymuned. 
Mae ein rhaglen Partneriaeth Ffibr Cymunedol wedi golygu ein bod wedi gallu cynnwys miloedd o adeiladau ychwanegol ledled Cymru a gweddill y DU yn ein cynlluniau Ffibr Llawn. Ond mae ymestyn y rhwydwaith i’r lleoliadau anodd eu cyrraedd hyn dal yn heriol, sy’n golygu ei bod ond yn bosibl os yw pawb yn cydweithio -chi, eich cymdogion ac Openreach. 
Mae dal angen mwy o addewidion arnon ni ym Mhentywyn i sicrhau ein bod yn gallu mynd hyd yn oed ymhellach i’r eiddo sydd ar gyrion y pentre, felly rydym ni’n annog pobl i gymryd rhan a pheidio â cholli cyfle." 

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod dros Ward Talacharn:

O adnabod y gymuned leol a deall ei rhwystredigaethau o ran cysylltedd band eang gwael, mae’r gwaith sydd wedi dechrau i wella hynny i’w groesawu’n fawr.”
Dylai fod gan ein cymunedau gwledig yr un mynediad â’n trefi, er mwyn cynnal eu cynhwysiant cymdeithasol, ac mae cael band eang da yn hanfodol i hynny. Mae’n wych bod trigolion wedi gallu gwneud cais am dalebau llywodraeth, gan sicrhau bod y gwaith gosod ddim yn golygu urhyw gostau iddyn nhw, ac rwy’n edrych ymlaen at glywed am y manteision pan fydd y seilwaith yn fyw.”  

Mae Openreach wedi nodi bod tua 25,000 o gartrefi a busnesau mewn tua 50 o gymunedau ledled Cymru yn gymwys i gael Ffibr llawn ac mae'n annog pobl leol i gymryd y cam nesaf drwy wneud cais am a chyfuno gyda'i gilydd Dalebau Gigabit y Llywodraeth sydd am ddim i helpu i ariannu'r gwaith adeiladu.  

Os bydd digon o bobl yn cofrestru, byddant yn ymuno ag oddeutu 850, 000 o gartrefi a busnesau ledled Cymru sydd eisoes â mynediad at fand eang ffibr llawn.  

Mae cyllid drwy Gynllun Talebau Band Eang Gigabit Llywodraeth y DU a defnyddio technegau peirianneg arloesol, yn golygu bod band eang gwell bellach o fewn cyrraedd miloedd yn fwy o gymunedau anghysbell, gwledig ac arfordirol fel Pentywyn.  

Pan fydd digon o bobl yn addo a dilysu eu talebau, bydd peirianwyr Openreach yn dechrau'r gwaith adeiladu. Gall hyn gymryd hyd at 12-18 mis, a gall rhai eiddo gael yr uwchraddiad cyn eraill. 

Mae rhwydwaith ffibr llawn cyflym iawn newydd Openreach yng Nghymru bellach yn cyrraedd mwy na 850,000 o eiddo, ac mae’r cwmni’n bwriadu cyflwyno’r dechnoleg newydd i 25 miliwn o gartrefi a busnesau yn y DU erbyn diwedd 2026.  

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am fanteision uwchraddio i fand eang Ffibr Llawn ar wefan Openreach. 

Fel arall, os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich band eang, cysylltwch â'ch Swyddog Ymgysylltu Band Eang lleol, Aled NIcholas: bandeang@sirgar.gov.uk