Llongyfarchiadau i fyfyrwyr Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol yn Sir Gaerfyrddin

127 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn llongyfarch yr holl fyfyrwyr sy'n derbyn eu canlyniadau Safon Uwch ac UG haeddiannol heddiw, dydd Iau 15 Awst 2024.

Roedd cyfanswm o 95.5% o fyfyrwyr Safon Uwch yn Sir Gaerfyrddin wedi cyflawni gradd A*-E.

Trwy gyfuniad o arholiadau ac asesiadau, sy'n berthnasol i wahanol gyrsiau, mae cyfanswm o 23% o fyfyrwyr Safon Uwch ledled Sir Gaerfyrddin wedi derbyn gradd A neu A* eleni; ac mae 86.4 % o fyfyrwyr UG Sir Gaerfyrddin wedi cael graddau A-E.

Wrth dderbyn ei chanlyniadau heddiw, dywedodd Kate o Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth:

Ces i A* a thri A ac ym mis Medi mi fydda i'n mynd i Rydychen i astudio Diwinyddiaeth a Chrefydd. Bydda i'n dathlu gyda fy ffrindiau heno.”

 Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg:

Llongyfarchiadau i'n pobl ifanc sy'n derbyn eu canlyniadau Safon Uwch ac UG heddiw, rydym i gyd yn falch iawn ohonoch.

Chi yw dyfodol disglair Sir Gaerfyrddin ac rwy'n diolch i chi, eich athrawon, staff cymorth, teuluoedd a ffrindiau am eich holl waith caled a'ch ymrwymiad, diolch. Rwy'n dymuno'r gorau i chi ac edrychaf ymlaen at glywed am eich cyflawniadau yn y dyfodol, pa bynnag lwybr y byddwch yn ei gymryd.”

Mewn datganiad ar y cyd, ychwanegodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin, Wendy Walters a'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant, Gareth Morgans

Llongyfarchiadau i'n myfyrwyr Safon Uwch ac UG. Mae'r canlyniadau hyn yn adlewyrchu eich gwaith caled a'ch dyfalbarhad, ac maent yn haeddiannol iawn.  

Ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin, hoffem ddiolch i chi am eich ymroddiad a diolch i'ch athrawon, staff cymorth, teuluoedd a ffrindiau am eu rôl yn eich llwyddiant. Dymunwn y gorau i chi ar gyfer y dyfodol, diolch yn fawr.” 

Cliciwch yma i wylio fideo o ddisgyblion Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth yn derbyn eu canlyniadau.