Gwaith ar y gweill i wella'r cyfleusterau parcio yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin a Pharc yr Esgob

123 diwrnod yn ôl

Mae gwaith wedi dechrau ar brosiect i ehangu a gwella'r cyfleusterau parcio yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin yn Hen Balas yr Esgob, Abergwili. Bydd y prosiect yn mynd rhagddo am oddeutu 12 wythnos, gan ddechrau ar 19 Awst, a bydd y gwaith yn cael ei wneud gan gwmni o Sir Gaerfyrddin, TRJ.

Sefydlwyd Amgueddfa Sir Gaerfyrddin yn 1908, ac mae wedi bod yn eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin ers 1940. Prynnwyd Hen Balas yr Esgob gan y Cyngor Sir yn 1972 ac fe adleolwyd yr Amgueddfa yno, i'w chartref presennol, yn 1978. Heddiw mae'n cael ei rheoli gan CofGâr, sef gwasanaeth amgueddfeydd a chelfyddydau Cyngor Sir Caerfyrddin. Mae'r safle hanesyddol, sydd o bwys cenedlaethol, hefyd yn gartref i Barc yr Esgob a Chegin Stacey.

Mae'r cynllun wedi derbyn £264,000 gan Gronfa Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru, sy'n agored i awdurdodau lleol ac awdurdodau parciau cenedlaethol i gefnogi prosiectau sy'n gwella hygyrchedd ac yn gwneud eu lleoliadau yn fwy cynaliadwy o safbwynt yr amgylchedd.

Nod Amgueddfa Sir Gaerfyrddin yw adeiladu ar flwyddyn lwyddiannus yn 2023, pan gafwyd y nifer mwyaf erioed o ymweliadau â'r amgueddfa, drwy ychwanegu mannau parcio hygyrch ger mynedfa'r amgueddfa a gwella cynllun y maes parcio. Bydd cyfleusterau i gefnogi pobl sy'n teithio ar feic yn cael eu cyflwyno, a bydd dehongliad yn cynnwys uchafbwyntiau ysbrydoledig o gasgliad yr amgueddfa ar daith ymwelwyr o'r maes parcio. Bydd gardd fechan wrth ddrws ffrynt yr amgueddfa yn cael ei chreu, yn fan cyfarfod a gweithgareddau croesawgar, gyda phlanhigion brodorol wedi'u hysbrydoli gan themâu o orffennol Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

Mae cynllun y maes parcio yn hwb mawr i Amgueddfa Sir Gaerfyrddin a'i phartneriaid ar y safle a bydd yn rhoi profiad hudolus i ymwelwyr wrth iddynt gyrraedd y lle hanesyddol hwn.

Yn dilyn llwyddiannau diweddar, nod CofGâr yw parhau i gynnal arddangosfeydd a gweithgareddau rhagorol yn yr amgueddfa dros y blynyddoedd nesaf. Bydd y gwaith hwn yn cefnogi ein nodau drwy ehangu'r ystod o gyfleusterau parcio sydd ar gael ac yn gwella hygyrchedd a diogelwch yn sylweddol, yn ogystal â chynnig profiad mwy cynhwysol a chroesawgar i bob ymwelydd.

Bydd y gwelliannau i'r amgylchedd naturiol a hanesyddol o amgylch y parc yn ategu'r profiad hwn drwy hybu bioamrywiaeth a chynaliadwyedd ac arddangos uchafbwyntiau hanes Sir Gaerfyrddin mewn ffyrdd newydd a chreadigol. Mae hyn, yn ogystal â darpariaeth ar gyfer mwy o gyfleoedd teithio llesol, yn dangos sut mae CofGâr yn ateb her Prosiect Zero Sir Gâr Cyngor Sir Caerfyrddin.

Mae'r Cyngor yn ddiolchgar am gefnogaeth ein partneriaid yn Llywodraeth Cymru i'r prosiect hwn ac rydym yn siŵr y bydd ymwelwyr yn falch iawn o weld yr holl newidiadau cadarnhaol dros y misoedd nesaf yn un o atyniadau ymwelwyr mwyaf blaenllaw Sir Gaerfyrddin”.

Ewch i wefan CofGâr am fwy o wybodaeth am y gwaith ar y maes parcio ac ymweld ag Amgueddfa Sir Gaerfyrddin, neu dilynwch CofGâr ar y cyfryngau cymdeithasol.