Ein Trefi Gwledig: Llandeilo
113 diwrnod yn ôl
Fel rhan o'r rhaglen Deg Tref a ddarparwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin, mae trefi marchnad wledig y Sir wedi derbyn cefnogaeth i ddatblygu prosiectau newydd cyffrous i ychwanegu bywiogrwydd a budd economaidd i'w tref. Y mis hwn, rydym yn canolbwyntio ar Landeilo, ac yn edrych ar sut y mae'r dref wedi elwa ar gyllid trwy Gyngor Sir Caerfyrddin a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Mae Llandeilo wedi lansio'n swyddogol ei atyniad ymwelwyr diweddaraf ym Mharc Le Conquet. Mae trac pwmpio newydd sbon wedi cael ei ddatblygu, gyda chefnogaeth Cronfa Deg Tref y Cyngor a Chwaraeon Cymru. Mae'r trac pwmp yn drac beicio pwrpasol y gellir ei ddefnyddio gan bob oedran a gallu. Mae'r trac wedi'i gynllunio i alluogi beicwyr i gadw cyflymder a momentwm trwy ddefnyddio pwysau eu corff a disgyrchiant i wneud eu ffordd o amgylch y trac, yn hytrach na phedlo neu wthio. Cwblhawyd y trac ddechrau'r Gwanwyn, ond cafodd ei lansio’n swyddogol ar 2 Awst 2024, gan ddenu ymateb positif i'r atyniad newydd yn lleol.
Ar ôl defnyddio’r trac pwmpio newydd dywedodd Tomi a Danny Butcher:
Mae'r trac Pwmpio yn wych; mae'n golygu nad oes rhaid i ni fynd yn y car i rywle i reidio ein beiciau ar drac pwmp mwyach. Mae wedi bod yn braf cwrdd â phobl newydd hefyd a gweld oedolion yn ei ddefnyddio. Ni'n treulio oriau yno, mae rhywun bob amser yn defnyddio'r trac, weithiau ar feic ond weithiau ar sgwteri neu'n sgrialu. Mae'n ffordd dda iawn o ddysgu sgiliau beicio newydd ac ymarfer corff hefyd.
Ychwanegodd Edward Friend, defnyddiwr arall:
Mae'n fuddsoddiad mor wych, mae'r plant wrth eu boddau, mae'n fuddsoddiad arbennig yn Llandeilo a'r ardal. Rydych chi wedi gwneud gwaith ardderchog.
Mae perchnogion busnes yn Llandeilo wedi elwa ar Gronfa Adfywio Canol Trefi Gwledig Cyngor Sir Caerfyrddin, sy'n helpu busnesau i adnewyddu, gwella ac ychwanegu bywiogrwydd i flaen eu siopau. Mae nifer o fusnesau Llandeilo wedi elwa ar y gronfa hon ac wedi dechrau gwneud y gwaith angenrheidiol. Pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau, bydd Llandeilo yn croesawu twristiaid gyda stryd fawr fywiog, a fydd yn helpu i gynyddu ymwelwyr i'r ardal. Mae'r Gronfa Adfywio Canol Trefi Gwledig yn parhau ar agor tan ddiwedd mis Awst 2024, i wneud cais ewch i'r dudalen we.
Mae Llandeilo wedi llwyddo i sefydlu ei hun fel tref sy'n llawn digwyddiadau a gwyliau cyffrous sy'n denu ymwelwyr o'r Sir ei hun ac o amgylch, gan helpu i gefnogi economi'r dref drwy gydol y flwyddyn. Mae Menter Dinefwr, sydd â'i swyddfa yn Hengwrt a ailddatblygwyd yn ddiweddar yng nghanol y dref, wedi datblygu digwyddiad newydd i'w gynnal yn yr Hydref. Bydd Helo Hanes yn ddigwyddiad i ddenu teuluoedd ac yn canolbwyntio ar dreftadaeth gyfoethog Llandeilo. Cefnogwyd y digwyddiad hwn yn ogystal â rhai eraill fel yr Ŵyl Lên ddiweddar yn y dref drwy Gronfa Ddigwyddiadau y Deg Tref sy'n ceisio cefnogi trefnwyr digwyddiadau i gynyddu nifer yr ymwelwyr yng nghanol y dref.
Am ragor o wybodaeth am ba ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal yn Llandeilo eleni, ewch i wefan Darganfod Sir Gâr.
Y dref yw’r cyntaf hefyd i agor ei siop sionc Deg Tref. Archwiliwyd i’r modd o osod busnesau bach annibynnol mewn siopau gwag ar y stryd fawr. Bydd siop Jessica Anne Papercraft yn agor ei drysau ar 2 Awst yn Stryd Rhos-maen yn dilyn sicrhau siop wag drwy'r fenter. Nod y prosiect yw darparu cyfleoedd i fusnesau bach brofi masnach ar y stryd fawr gyda'r bwriad o ddarparu profiad cadarnhaol fel sail i drefniadau hir dymor yn y dyfodol yn ogystal â llenwi siopau gwag ar y stryd fawr.
Dywedodd Jessica Ann am ei phrofiad:
Rwy'n teimlo'n ffodus iawn fy mod wedi gweld y cyfle gwych o gael siop sionc a ariennir gan Gyngor Sir Caerfyrddin ac rwy'n edrych ymlaen at y posibilrwydd o ddatblygu fy musnes yn Llandeilo.
Yn ddiweddar, cynhaliodd tîm datblygu twristiaeth Cyngor Sir Caerfyrddin Sioe Deithiol Twristiaeth a Busnes yn Neuadd y Farchnad Llandeilo ym mis Mai. Mae'r sioeau teithiol hyn yn gyfle i fusnesau a swyddogion y Cyngor gael sgwrs i drafod pynciau fel marchnata, cymorth busnes, trwyddedu a rheoli gwastraff. Mae swyddogion datblygu twristiaeth yn cyflwyno cyfres o gamau marchnata i gynyddu gwariant eilaidd yn y dref, megis Pwyntiau Gwybodaeth i Ymwelwyr mewn ardaloedd allweddol sy'n denu ymwelwyr, delweddau newydd, hysbysebu ar gyfryngau cymdeithasol a thargedu cyfryngau cenedlaethol. Mae'r sioeau teithiol hyn hefyd yn galluogi busnesau i ddod o hyd i wybodaeth am gyfleoedd grant newydd ac opsiynau ariannu. Bydd y sioe deithiol twristiaeth nesaf yn cael ei chynnal yn Hendy-gwyn ar Daf ar 18 Medi 2024.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y gall adran dwristiaeth y Cyngor ei wneud ar gyfer eich busnes, ewch i'r wefan.
Bydd tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid gwledig Hwb Bach y Wlad, Cyngor Sir Caerfyrddin yn ailddechrau'r gwasanaeth o 5 Medi 2024, yn Neuadd Ddinesig Llandeilo. Mae Hwb Bach y Wlad yn cynnig cymorth, cefnogaeth a chyngor ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys addysg, tai a gwasanaethau iechyd a llesiant
Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal rhwng 10am a 3pm.
Am ragor o wybodaeth am Hwb Bach y Wlad, gan gynnwys pryd y bydd yn eich ardal chi, ewch i'r wefan.
Dywedodd y Cynghorydd Carys Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio:
Mae'r prosiect 10 Tref wedi bod yn llwyddiant mawr gan alluogi'r Cyngor i arddangos ein trefi marchnad gwledig. Mae Llandeilo yn defnyddio cyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin i greu digwyddiadau newydd a chyffrous, a chynyddu twristiaeth i'r ardal a nifer yr ymwelwyr i fusnesau lleol, unigryw ac annibynnol. Rwy'n annog y rhai sydd heb ymweld â'r dref hardd hon, i fynd i un o'r llu o ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal yno eleni a mwynhau popeth sydd gan Landeilo ei gynnig.
Am ragor o wybodaeth am raglen y Deg Tref, ewch i'r wefan.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau yn Sir Gâr, ewch i wefan Darganfod Sir Gâr.