Dysgwyr TGAU Sir Gâr yn dathlu eu canlyniadau

120 diwrnod yn ôl

Llongyfarchiadau i holl fyfyrwyr Sir Gaerfyrddin sy'n derbyn eu canlyniadau TGAU heddiw, ddydd Iau 22 Awst 2024.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn dathlu llwyddiannau dysgwyr, athrawon a staff cymorth y Sir. Mae eu hymroddiad a'u gwaith caled dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi talu ar ei ganfed.

Yn Sir Gaerfyrddin, dyfarnwyd gradd A*-C i 66.9% o'r holl geisiadau a dyfarnwyd gradd A*-A i 20.2% o'r ceisiadau.

Ar ôl derbyn ei ganlyniadau heddiw dywedodd Ryan o Ysgol Coedcae:

Cefais ddyfarniad dwbl A* mewn Gwyddoniaeth, A mewn Cymraeg, A* mewn Mathemateg uwch, A mewn Rhifedd, B mewn Cyfrifiadureg, A mewn Busnes, A mewn Addysg Gorfforol, A mewn Saesneg ac C mewn Sbaeneg. Rwyf yn hapus iawn gyda fy nghanlyniadau ac rwy'n mynd i'r coleg nawr ac yn gobeithio astudio Safon Uwch Bioleg, Mathemateg ac Addysg Gorfforol.”

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg:

Hoffwn estyn fy llongyfarchiadau gwresog i'n holl bobl ifanc sy'n derbyn eu canlyniadau TGAU heddiw. Rwyf yn falch iawn ohonoch ac rydych chi'n glod i ni i gyd yn Sir Gaerfyrddin.” 
Ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin, rhaid i mi ddiolch hefyd i'r athrawon, staff cymorth, teuluoedd a ffrindiau am eich cefnogaeth a'ch ymrwymiad i'n dysgwyr; mae eu llwyddiant yn adlewyrchiad o'ch gwaith caled.”

Mewn datganiad ar y cyd, ychwanegodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin, Wendy Walters a'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant, Gareth Morgans:

Rydym yn falch iawn o'n dysgwyr a'u llwyddiannau, llongyfarchiadau i chi i gyd. Rydym hefyd yn ddiolchgar i'w hathrawon, eu staff cymorth, eu teuluoedd a'u ffrindiau am eu gwaith caled dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Gwaith gwych gan bawb.”  

Cliciwch yma i wylio fideo o ddisgyblion Ysgol Coedcae yn derbyn eu canlyniadau.