Dewch i ymweld â Pharciau Chwarae Sir Gaerfyrddin yr haf hwn!

120 diwrnod yn ôl

Mae mynd allan i'r awyr agored dros yr haf un o uchafbwyntiau gwyliau'r ysgol - os yw'r tywydd yn caniatáu!

Mae cyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU yn helpu i wella ardaloedd chwarae ac offer ledled Sir Gaerfyrddin. Mae rhaglen Cymunedau Cynaliadwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â chymunedau o bob rhan o'r Sir i wella ac ailddatblygu ardaloedd chwarae er mwyn i deuluoedd lleol eu mwynhau yn ystod gwyliau'r haf a thu hwnt.

Un enghraifft o hyn yw creu ardal chwarae newydd ym mhentref bach gwledig Llanboidy. Ar ôl ymgynghori'n helaeth â'r gymuned, cytunwyd bod cael parc chwarae newydd yn bwysig iawn i'r pentref. Aethpwyd ati i ddatblygu'r parc, gyda chefnogaeth trigolion sydd â phrofiad blaenorol yn y maes, a chyflwynwyd cais i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. 

Cafwyd cefnogaeth enfawr gan y gymuned wrth i'r bobl leol gytuno i osod yr offer eu hunain, gan leihau costau a chynyddu'r ymdeimlad o berchnogaeth leol.

Trwy gydol y broses osod, gwahoddwyd pobl leol i helpu, trwy osod matiau glaswellt, torri glaswellt a gosod yr offer chwarae. Gan fod y gwaith bellach wedi'i gwblhau, mae'r parc ar agor i'r cyhoedd. Ymdrech gymunedol wych!

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

Mae cyllid drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi caniatáu i'r Cyngor wneud newidiadau sydd mawr eu hangen yn ein Sir. Mae gweithio'n agos gyda'n cymunedau yn hanfodol i'r gwaith hwn, mae gwrando ar yr hyn y mae pobl leol ei eisiau yn allweddol i wneud gwelliannau. Rhaid canmol yr ymrwymiad ac ymroddiad a welwyd gan y cymunedau, gan greu cyfleoedd newydd gwych i blant fwynhau'r rhyddid i chwarae.

Mae prosiectau eraill tebyg yn cynnwys: