Cyngor yn cymryd y camau cyffrous nesaf i drawsnewid Tyisha

134 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn chwilio am bartner datblygu i gyflawni cam nesaf prosiect adfywio Trawsnewid Tyisha sy'n cynnwys datblygu tai deiliadaeth gymysg i bobl leol ar draws 5 safle allweddol.

Bydd y datblygiadau yn darparu cyfleoedd i brynwyr am y tro cyntaf, teuluoedd a'r rhai sydd angen tai cymdeithasol yn ogystal â darparu mwy o fannau gwyrdd a gwella'r amgylchedd.

Mae'r holiadur cyn-gymhwyso a'r briff tendr bellach yn fyw ar wefan gwerthwchigymru, lle gall partneriaid posibl gyflwyno'r wybodaeth a chofrestru eu diddordeb mewn dod i ymuno â'r Cyngor a helpu i sicrhau dyfodol cyffrous ar gyfer Tyisha.

Y safleoedd sydd wedi'u cynnwys yn y brîff tendr yw:

  • Hen Ysgol Maesllyn
  • Maes Y Gors – hen safle'r Pedwar Ty
  • Hen Ysgol Copperworks
  • Fflatiau Clos Sant Paul
  • Maes parcio'r Orsaf Drenau

Mae'r Cyngor yn gofyn i ddarpar ddatblygwyr amlinellu eu cynigion ar gyfer datblygu a darparu cyfuniad o fathau o dai a deiliadaethau megis tai fforddiadwy, rhannu perchenogaeth, tai sy'n eiddo i feddianwyr a thai cymdeithasol sy'n addas ar gyfer anghenion y gymuned leol.

Mae syniadau'n cael eu croesawu ar gyfer buddsoddi mewn cyfleusterau cymunedol lleol sy'n gwella iechyd a llesiant yn ogystal â chyfleoedd cyflogaeth a phrentisiaeth.

Mae gan y Cyngor ddiddordeb hefyd mewn gweld cynlluniau sy'n manylu ar welliannau i'r amgylchedd drwy dirlunio, plannu coed, darpariaethau gwastraff addas, mannau storio a gwneud y datblygiadau yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Dylid cefnogi blaenoriaeth Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Llanelli o wella cysylltiadau trafnidiaeth yn yr ardal yn y cynlluniau hefyd, gan gysylltu datblygiadau â llwybrau beiciau newydd a phresennol yn ogystal â chynnwys digon o le parcio i leihau tagfeydd.

Dywedodd y Cynghorydd Linda Davies Evans, yr Aelod Cabinet dros Gartrefi a Chadeirydd Grŵp Llywio Tyisha:

Rwy'n falch iawn bod prosiect Trawsnewid Tyisha wedi cyrraedd y cam lle rydym bellach yn chwilio am bartner i'n helpu i gyflawni rhan fawr o ddyfodol addawol Tyisha.”
Rydym yn chwilio am ddatblygwr i ddarparu tai modern ac ynni-effeithlon o ansawdd sydd eu hangen fwyaf ar bobl leol, tra'n cadw cymeriad treftadaeth gyfoethog Tyisha.”

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r Holiadur Cyn-Gymhwyso yw dydd Iau, 12 Medi 2024 am 2pm.

Mae mwy o wybodaeth am y briff tendro ar gyfer y prosiect hwn ar gael ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.

Mae hyn yn rhan o gynlluniau uchelgeisiol Cyngor Sir Caerfyrddin i adfywio ward Tyisha ac ardal ehangach canol tref Llanelli sy'n derbyn buddsoddiad enfawr.