Cyngor Sir yn dechrau ar raglen gosod wyneb newydd ar ffyrdd gwerth £2 filiwn

126 diwrnod yn ôl

Fel rhan o'n buddsoddiad cyfalaf parhaus, mae rhaglen o waith adnewyddu ffyrdd bellach ar waith, gan fuddsoddi £2 filiwn eleni i wella wynebau ffyrdd. Mae gwaith gosod wyneb newydd wedi'i gynllunio mewn gwahanol leoliadau ar draws y Sir, wedi dechrau ar 12 Awst hyd at ddiwedd mis Hydref. Bydd wyneb newydd yn cael ei osod ar gyfanswm o 23 darn unigol o ffordd yn ystod y misoedd nesaf.

Mae'r rhaglen hon o osod wyneb newydd ar ffyrdd yn ychwanegol at raglen sylweddol o waith trin wyneb ataliol, sydd bellach bron wedi'i gwblhau, adfer cyflwr yr wyneb, selio craciau a gwella gallu ffyrdd i atal sgidio. Er na allwn drin pob ffordd, gyda'i gilydd bydd y gwelliannau yn gwella siwrneiau i ddefnyddwyr ffyrdd Sir Gaerfyrddin a'u gwneud yn fwy diogel. 

Rhoddir gwybod ymlaen llaw am bob cynllun a bydd arwyddion rhybuddio ymlaen llaw yn cael eu gosod ym mhob lleoliad, a manylion llawn y cynigion ar gyfer rheoli traffig yn cael eu cyhoeddi ar Causeway one.network. Bydd angen cau ffyrdd yn llwyr mewn sawl lleoliad i gyflawni'r gwaith yn ddiogel, ond tynnir sylw at y ffyrdd hyn a fydd ar gau ymhell ymlaen llaw, ac mewn cydweithrediad â gweithredwyr trafnidiaeth a'r gwasanaethau brys. Pan fo angen, bydd y gwaith yn cael ei wneud yn ystod adegau tawel a bydd ffyrdd ar gau a gwyriadau ar waith fel arfer o 7:00pm.

Anogir modurwyr i gymryd gofal ychwanegol a lle bo'n bosibl, cynllunio teithiau i osgoi'r ardaloedd hyn tra bod y gwaith hanfodol hwn yn cael ei wneud. Caniateir mynediad mewn argyfwng a mynediad i safleoedd busnes yn ystod y gwaith cyn belled ag y bo modd. 

Byddwn yn parhau i leihau'r effaith ar ddefnyddwyr ffyrdd drwy gynllunio'n ofalus, fodd bynnag, mae'n anochel y bydd hyn yn tarfu ar bethau i ryw raddau. Diolch am eich amynedd a'ch cydweithrediad yn ystod y gwaith.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

Mae gan drafnidiaeth a phriffyrdd rôl allweddol o ran cefnogi a chynnal ein cymunedau i fod yn iach, diogel a llewyrchus. Mae'n dra hysbys bod y straen ariannol sylweddol ar holl sefydliadau'r sector cyhoeddus yn cael effaith fawr ar ein gwasanaethau i'n preswylwyr, fodd bynnag, rwy'n falch ein bod wedi gallu buddsoddi £2 filiwn drwy'r rhaglen buddsoddi cyfalaf eleni i wella wynebau ffyrdd yn Sir Gaerfyrddin."