Cyngor Sir Caerfyrddin yn sicrhau euogfarn yn erbyn Bridiwr Cŵn Didrwydded

123 diwrnod yn ôl

Mewn achos a glywyd yn Llys y Goron Abertawe, llwyddodd Cyngor Sir Caerfyrddin i erlyn Tomos Davies o Fferm Rhydygors am weithredu busnes bridio cŵn heb drwydded. Mae'r achos yn nodi camau gorfodi sylweddol o ran Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014, gyda'r nod o sicrhau lles cŵn bridio a'u cŵn bach.

Dechreuodd yr ymchwiliad ym mis Hydref 2022 ar ôl i Gyngor Sir Caerfyrddin dderbyn honiadau bod Mr Davies yn bridio ac yn gwerthu toreidiau o gŵn bach heb y drwydded ofynnol. Er gwaethaf cysylltu â'r Cyngor ym mis Ionawr 2021 i holi am gael trwydded bridio cŵn a derbyn pecyn gwybodaeth cynhwysfawr yn amlinellu'r camau angenrheidiol a'r gofynion cyfreithiol, methodd Mr Davies â chyflwyno cais.

Ym mis Chwefror 2023, datgelodd cais Deddf Diogelu Data i sawl platfform hysbysebu dystiolaeth bod Mr Davies wedi bod wrthi'n hysbysebu cŵn bach i'w gwerthu. Datgelodd y data naw cyfrif hysbysebu, gan gynnwys pump a gofrestrwyd yn enw Mr. Davies ar draws llwyfannau fel Preloved, Pets4homes, Kennel Club, Gumtree, a Freeads, a phedwar cyfrif a gofrestrwyd i drydydd parti.

Dangosodd y cofnodion hysbysebu fod Mr Davies wedi rhestru 11 torraid o gŵn bach ar werth rhwng 21 Ebrill 2021 a 19 Chwefror 2023. Roedd y bridiau a hysbysebwyd yn cynnwys Labradoodles, Cŵn Tarw Ffrengig, Labradors, Corhelgwn, a Dobermans. Er ei fod yn gwbl ymwybodol o'r rheoliadau trwyddedu, parhaodd Mr Davies â'i weithrediadau bridio heb gael y drwydded angenrheidiol, gan sbarduno'r Cyngor Sir i gymryd camau cyfreithiol.

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd, am yr achos:

Mae'r erlyniad llwyddiannus hwn yn tanlinellu pwysigrwydd cydymffurfio â rheoliadau lles anifeiliaid. Gall bridio heb drwydded arwain at amodau gwael i'r anifeiliaid dan sylw. Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i orfodi'r rheoliadau hyn yn llym er mwyn amddiffyn lles cŵn a chŵn bach."

Mae'r Cyngor yn annog pob darpar fridiwr cŵn i ymgyfarwyddo â'r gofynion cyfreithiol a sicrhau eu bod yn cael y trwyddedau priodol cyn dechrau gweithrediadau bridio. Yn ogystal â Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014, mae Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 hefyd yn berthnasol i fridio cŵn heb drwydded yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Mae'r rheoliadau hyn ar waith i ddiogelu iechyd a diogelwch cŵn bridio a'u cŵn bach.