Cyngor Sir Caerfyrddin yn hybu mentrau gwyrdd gyda cherbydau trydan newydd a gorsafoedd gwefru
121 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwneud cynnydd sylweddol yn ei ymdrechion cynaliadwyedd drwy barhau i integreiddio cerbydau trydan i'w fflyd. Diolch i gyllid gan Wasanaeth Ynni Cymru, mae'r Cyngor wedi ychwanegu 10 car trydan a 30 fan drydan i'w fflyd, gan bwysleisio ei ymroddiad i leihau allyriadau carbon a meithrin dulliau cludiant ecogyfeillgar.
Er mwyn cefnogi'r cerbydau trydan newydd hyn, mae'r Cyngor wedi gosod 19 peiriant gwefru cerbydau trydan mewn pedwar safle hanfodol: Depo Trostre, Depo Cillefwr, Depo Cwmaman, a Neuadd y Sir. Mae hyn yn cynnwys chwe pheiriant gwefru chwim ac 13 o beiriannau gwefru cyflym, gan sicrhau bod y fflyd yn parhau i fod yn weithredol heb fawr o amser segur.
Gan wella'r seilwaith ymhellach, mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid a phrynu 18 peiriant gwefru ychwanegol - pedwar peiriant gwefru chwim ac 14 o beiriannau gwefru cyflym - gan ddefnyddio grant Gwasanaeth Ynni Cymru hefyd. Mae'r unedau hyn bellach yn ein depos yn barod i'w gosod. Rydym am osod y peiriannau gwefru hyn mewn chwe safle ychwanegol ar draws y sir.
Mae'r fenter hon yn tanlinellu ymrwymiad pendant Cyngor Sir Caerfyrddin i stiwardiaeth amgylcheddol a datblygu cynaliadwy. Bydd Seilwaith ein Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan yn cyd-fynd â dyheadau ein fflyd. Ar ôl defnyddio cyllid grant gan Wasanaeth Ynni Cymru, mae nifer y cerbydau trydan o fewn fflyd y Cyngor Sir wedi codi o 1% i 8%. Trwy fabwysiadu cerbydau trydan ac ehangu'r seilwaith gwefru, mae'r Cyngor yn paratoi'r ffordd ar gyfer dyfodol mwy gwyrdd a mwy cynaliadwy.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:
Rydym yn falch o rannu'r cam sylweddol hwn y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei gymryd wrth drosglwyddo i fflyd cerbydau trydan, gan adlewyrchu ein hymrwymiad i ddatgarboneiddio a gwella ansawdd aer. Mae'r gwaith o drawsnewid ein fflyd a sicrhau seilwaith gwefru priodol nid yn unig yn cyd-fynd â'n huchelgais i leihau allyriadau carbon ond mae hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth greu amgylchedd iachach i'r holl drigolion.”