Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyflwyno Hysbysiadau Cosb Benodedig a Chamau Gorfodi ar gyfer Gorffennaf 2024
128 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau â'i ymrwymiad i gynnal amgylchedd glân a diogel trwy gyhoeddi sawl Hysbysiad Cosb Benodedig (FPNs) a chamau gorfodi drwy gydol mis Gorffennaf 2024. Cymerwyd y camau hyn mewn ymateb i wahanol achosion o dorri deddfwriaeth amgylcheddol ar draws y rhanbarth, gan gynnwys sbwriela, tipio anghyfreithlon, a gwaredu gwastraff mewn modd amhriodol.
Cyflwynwyd yr hysbysiadau cosb benodedig canlynol o £125 am droseddau sbwriel:
- Heol yr Orsaf, Llanelli: Cafodd preswylydd o Ddyfnant ddirwy o £125 am daflu stwmp sigarét ar Heol yr Orsaf.
- Pentywyn: Derbyniodd menyw Hysbysiad Cosb Benodedig o £125 am waredu eitemau cardbord ar y llawr wrth ymyl bin sbwriel.
- Heol Salem, Felin-foel: Cafodd menyw ddirwy o £125 am osod bag ailgylchu glas o wastraff ar y llawr yn y cyffiniau.
- Maes Parcio Dunelm Mill, Rhiw'r Myrtwydd, Caerfyrddin: Cafodd menyw o Bow Street, Ceredigion, Hysbysiad Cosb Benodedig o £125 am daflu gwm cnoi ar y llawr yn y maes parcio.
Cyflwynwyd sawl Hysbysiad Cosb Benodedig o £400 hefyd am droseddau'n ymwneud â thipio anghyfreithlon:
- Heol Colby, Porth Tywyn: Cafodd dyn o Borth Tywyn ddirwy o £400 am waredu dau focs cardbord a dau fag plastig yn llawn gwastraff y cartref wrth ymyl bin sbwriel.
Rhoddwyd Hysbysiadau Cosb Benodedig o £100 i breswylwyr a fethodd â chydymffurfio â hysbysiadau cynwysyddion gwastraff:
- Stryd Elisabeth, Llanelli: Cafodd dau breswylydd ddirwy o £100 yr un; un am roi eitemau brwnt/halogedig mewn bagiau ailgylchu glas, gan arwain at wasgaru trwy'r lôn, ac un arall am roi bagiau sbwriel du allan ar yr wythnos anghywir, yn cynnwys eitemau y gellid eu hailgylchu.
- Teras Gathen, Llanelli: Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig o £100 i breswylydd am osod eitemau halogedig, gan gynnwys cynhyrchion lliwio gwallt ac eitemau bwyd, mewn bagiau ailgylchu glas.
- Heol y Doc Newydd, Llanelli: Derbyniodd preswylydd Hysbysiad Cosb Benodedig o £100 am halogi bagiau ailgylchu glas gyda gwastraff bwyd.
- Stryd Florence, Llanelli: Cafodd preswylydd arall ddirwy o £100 am halogi bagiau ailgylchu glas gyda gwastraff bwyd.
- Prospect Place, Llanelli: Cafodd preswylydd ddirwy o £100 am roi bag sbwriel du allan i'w gasglu ar yr wythnos anghywir.
Cyhoeddwyd nifer o Hysbysiadau Cosb Benodedig o £300 am Droseddau'n ymwneud â Dyletswydd Gofal.
Caerfyrddin: Cafodd menyw ddirwy o £300 am fethu â sicrhau bod yr unigolyn a gyflogodd i symud ei gwastraff yn gludwr gwastraff trwyddedig. Cafwyd hyd i'r gwastraff, yn cynnwys bagiau glas, wedi'u gwaredu'n anghyfreithlon wrth fynedfa Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Nantycaws (HWRC). Atgoffir preswylwyr o'u cyfrifoldeb cyfreithiol i wirio bod unrhyw un sy'n cael gwared ar wastraff o'u heiddo yn Gludwr Gwastraff Trwyddedig Awdurdodedig. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Hysbysiadau Gorfodi a Gyflwynwyd
- A.46 Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990: Cyflwynwyd 45 o hysbysiadau.
- A.47 Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990: Cyflwynwyd 4 o hysbysiadau.
Mae'r Tîm Gorfodi Materion Amgylcheddol yn parhau i fod yn wyliadwrus wrth gynnal safonau amgylcheddol ac yn annog pob preswylydd i waredu gwastraff mewn modd cyfrifol. Bydd methu â chadw at ddeddfwriaeth gwaredu gwastraff yn arwain at gymryd camau gorfodi, gan gynnwys dirwyon.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:
Mae ymdrechion parhaus a chanlyniadau arbennig Tîm Gorfodi Materion Amgylcheddol y Cyngor yn dangos ein hymrwymiad cryf i fynd i'r afael â throseddau amgylcheddol yn Sir Gaerfyrddin. Rwy'n annog pawb i waredu gwastraff yn gyfrifol, boed hynny drwy'r gwasanaeth casglu gwastraff y cartref neu mewn canolfannau ailgylchu."
I roi gwybod am dipio anghyfreithlon ewch i wefan y Cyngor neu ffoniwch 01267 234567.