Clinig Archwilio Diogelwch Seddi Ceir Plant AM DDIM yn Smyths Toys, Llanelli
135 diwrnod yn ôl
Mae Tîm Diogelwch Ffyrdd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cydweithio â Smyths Toys, Llanelli, i gynnal Clinig Archwilio Diogelwch Seddi Ceir Plant AM DDIM, ddydd Gwener, 9 Awst 2024, 11am – 6pm, yn Smyths Toys, Llanelli.
Mae'r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim a'i nod yw rhoi tawelwch meddwl i rieni, gwarcheidwaid a'r rhai sy'n gyfrifol am gludo plant yn eu cerbydau, bod eu seddi ceir wedi'u gosod yn ddiogel i amddiffyn eu plentyn.
Mae diogelwch seddi ceir plant yn hanfodol bwysig o ran diogelu plant wrth deithio mewn cerbyd. Yn y DU, rhaid i blant ddefnyddio seddi car plentyn nes eu bod yn 12 oed neu'n 135cm o daldra, pa un bynnag sy'n dod gyntaf. Mae'n hanfodol bwysig sicrhau bod y sedd yn addas a'i bod wedi'i gosod yn ddiogel yn eich cerbyd, a bod y sedd yn briodol i'ch plentyn i amddiffyn y plentyn i’r graddau mwyaf posibl mewn achos o wrthdrawiad.
Bydd y Clinig Archwilio Diogelwch Seddi Ceir Plant hefyd yn cynnig canllawiau i rieni ynghylch dewis y sedd gywir i'w plentyn. Yn 2023, gwiriodd Good Egg Safety 1484 o seddi ceir ledled Prydain Fawr a chanfod bod 65% o seddi ceir plant wedi’u gosod yn anghywir, felly mae’n syniad da mynd i glinig archwilio i wirio bod sedd car eich plentyn wedi’i gosod yn gywir i sicrhau bod eich plentyn mor ddiogel â phosibl wrth deithio.
Bydd ymgynghorwyr achrededig Cyngor Sir Caerfyrddin yn Smyths Toys, Llanelli yn gwirio ac yn addasu sedd car eich plentyn gan sicrhau ei bod wedi'i gosod yn gywir ac yn ddiogel.
Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:
Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i sicrhau bod eich plant yn ddiogel yn eu sedd car. Rydym yn falch iawn o weithio gyda siopau sy'n gwerthu seddi ceir plant yn Sir Gaerfyrddin i ddarparu'r archwiliadau diogelwch hyn a rhannu gwybodaeth diogelwch arbenigol gyda rhieni.”
Mae Tîm Diogelwch Ffyrdd Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio gyda siopau a chwmnïau eraill sy'n gwerthu seddi ceir plant yn y sir i gynnig y Clinig Archwilio Diogelwch Seddi Ceir Plant. Os yw eich cwmni'n dymuno cydweithio â'r Awdurdod Lleol ar y cynllun hwn, anfonwch e-bost i DiogelwchFfyrdd@sirgar.gov.uk
I gael rhagor o wybodaeth am Ddiogelwch Seddi Ceir Plant, ewch i'r dudalen clinigau archwilio diogelwch seddi ceir i blant (llyw.cymru)