Casgliadau Gwastraff yn Sir Gâr ar Ŵyl y Banc mis Awst
123 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi anfon llythyr at bob eiddo sy'n cael casgliadau gwastraff ar ddydd Llun, i roi gwybod i'r preswylwyr am newid i'r diwrnod casglu ar Ŵyl y Banc mis Awst 2024.
Mae llythyron wedi'u hanfon at yr holl eiddo yr effeithir arnynt i roi gwybod i'r preswylwyr am eu diwrnod casglu amgen. Mae gwefan a gwiriwr casgliadau'r Cyngor Sir wedi'u diwygio a bydd ei wasanaeth negeseuon atgoffa ar ffurf e-bost a neges destun hefyd yn rhoi gwybod i'r preswylwyr yr effeithir arnynt o'r newid i'w diwrnod casglu.
Y ffordd orau o gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddyddiadau casglu gwastraff a gwybodaeth am unrhyw newidiadau i'ch casgliadau yw cofrestru ar gyfer gwasanaeth negeseuon atgoffa ar ffurf e-bost neu neges destun y Cyngor Sir.
Ewch i www.sirgar.llyw.cymru/ailgylchu i gofrestru.
Fel arall, gallwch bob amser gadarnhau eich diwrnod casglu gwastraff ar ein gwefan.
Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:
Os yw eich gwastraff yn cael ei gasglu ar ddydd Llun fel arfer, mae newidiadau i'ch casgliad ar Ŵyl y Banc mis Awst eleni a byddwch yn derbyn llythyr yn nodi eich trefniadau casglu.
Ffordd syml ac am ddim o gael negeseuon atgoffa wythnosol o'ch dyddiad casglu gwastraff ac unrhyw newidiadau i'ch casgliad yw cofrestru ar gyfer negeseuon atgoffa'r Cyngor ar ffurf e-bost neu neges destun.
Diolch i'r holl breswylwyr am gefnogi ein hymdrechion i ailgylchu mwy. Ailgylchwch gymaint â phosibl a chofiwch y terfyn tri bag du.”
Bydd holl ganolfannau ailgylchu Sir Gâr ar agor fel arfer ddydd Llun Gŵyl y Banc.
Cofiwch edrych ar yr oriau agor cyn i chi fynd.