Bwriad i gau ffordd yn Stryd Cowell a Stryd Stepney, Llanelli

120 diwrnod yn ôl

Bwriedir cau ffordd yn Stryd Cowell a Stryd Stepney, Llanelli o ddydd Mawrth 27 Awst 2024 am gyfnod o 7 wythnos, er mwyn i Gyngor Sir Caerfyrddin wneud gwaith hanfodol o ran gwella llecynnau cyhoeddus. Effeithir ar Stryd Cowell a phen gorllewinol Stryd Stepney yn ystod y cyfnod hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Diwylliant, Hamdden a Thwristiaeth:

“Bydd cau'r ffyrdd hyn yn caniatáu i'r Cyngor wneud gwaith hanfodol yn unol â'r rhaglen Mynd i'r Afael â Threfi. Diolch i'r cyhoedd am eu hamynedd wrth i ni wneud y gwaith angenrheidiol”.

Bydd mynediad i gerddwyr yn cael ei gynnal drwy gydol y cyfnod bydd y ffordd ar gau, ac mae'r busnesau yr effeithir arnynt wedi cael gwybod. Bydd llefydd parcio eraill ar gael yn ystod y gwaith ym Maes Parcio Stryd Murray gerllaw ac mewn strydoedd eraill.

Ni fydd ffordd arall tra bydd y ffordd hon ar gau.