Biniau i'r Bechgyn

130 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio mewn partneriaeth â Grŵp Cymorth Canser y Prostad Gorllewin Cymru i ddarparu Biniau i'r Bechgyn. Mae'r fenter yn darparu biniau glanweithiol ym mhob toiled i helpu gydag effeithiau anymataliaeth. Sefydlwyd y rhaglen i helpu dynion sy'n dioddef effeithiau parhaol o driniaeth ar gyfer Canser y Prostad a'r Coluddyn. 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi sicrhau bod biniau glanweithiol ar gael ar draws y Sir, ac mae'r lleoliadau'n cynnwys:

  • Talacharn
  • Sanclêr
  • Maes Parcio Sant Ioan
  • Maes Parcio San Pedr
  • Llansteffan
  • Llanelli

Bydd 1 o bob 25 o ddynion 40+ oed yn profi problemau gydag anymataliaeth, gan gynyddu i effeithio ar 1 o bob 20 dyn dros 60 oed.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

Dylai biniau glanweithiol fod ar gael yn haws i ddynion mewn toiledau. Dylai'r cyhoedd chwilio am bosteri sydd wedi'u lleoli'n glir i ddangos pa ardaloedd sydd â biniau glanweithiol. Rwy'n cymeradwyo'r gwaith sy'n cael ei wneud gan y Cyngor a Grŵp Cymorth Canser y Prostad Gorllewin Cymru, wrth sicrhau bod y pwnc pwysig hwn yn cael ei gydnabod ar draws ein Sir.

I gael gwybod mwy am y cymorth sydd ar gael gyda Grŵp Cymorth Canser y Prostad lleol, ewch i'r wefan hon.

Gallwch hefyd wirio'ch risg mewn 30 eiliad trwy Wiriwr Risg Prostate Cancer UK.