Yr arolwg Rhandiroedd a Thyfu Cymunedol yn fyw

65 diwrnod yn ôl

I nodi Wythnos Natur Cymru (29 Mehefin – 7 Gorffennaf), gwahoddir trigolion Sir Gaerfyrddin i gymryd rhan mewn arolwg Rhandiroedd a Thyfu Cymunedol ar-lein, a ariennir ar y cyd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a Chyngor Sir Caerfyrddin.


Mae nifer o fanteision posibl ynghlwm wrth randiroedd a mannau tyfu cymunedol, gan gynnwys byw'n iach a llesiant meddyliol. Bydd yr arolwg yn galluogi'r Awdurdod Lleol i ddeall yn well yr angen am fannau o'r fath ar draws y sir, sy'n cyd-fynd ag Amcan Llesiant 3 y Cyngor: Galluogi ein cymunedau a’n hamgylchedd i fod yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus (Cymunedau Ffyniannus).

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:

Bydd yr arolwg hwn yn golygu gall y Cyngor Sir ddarparu mannau'n well er mwyn annog pobl i dyfu eu cynnyrch eu hunain trwy randir, neu ymuno â mannau tyfu cymunedol i gymdeithasu yn ogystal â dysgu sgiliau newydd. P'un a ydych yn cael gwaith gwybod y gwahaniaeth rhwng moron a phannas, neu'n arddwr profiadol – ni am glywed eich barn am y pwnc pwysig hwn.


I gwblhau'r arolwg, ewch i'n gwefan.

Mae'r arolwg Rhandiroedd a Thyfu Cymunedol yn fyw rhwng 5 Gorffennaf a 2 Awst 2024.


Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, cysylltwch â thîm Prosiect Gwyrddu Sir Gâr, a fydd yn gallu cynnal yr arolwg gyda chi dros y ffôn.


Ffoniwch: 07816113034 (ar gael rhwng 9am ac 1pm o ddydd Llun i ddydd Gwener)


I weld pa ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal ar draws Cymru ar gyfer Wythnos Natur Cymru, ewch i'r wefan hon.