Ymestyn y dyddiad cau i roi adborth ar derfyn cyflymder o 20mya ar ffyrdd Sir Gaerfyrddin

92 diwrnod yn ôl

Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddydd Mawrth, 16 Gorffennaf 2024, ei bod wedi cyhoeddi canllawiau newydd i gefnogi awdurdodau priffyrdd wrth wneud penderfyniadau ar derfynau cyflymder o 20mya, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymestyn dyddiad cau ei arolwg terfyn cyflymder o 20mya, hyd at 31 Awst.

Cyhoeddwyd arolwg ar-lein y Cyngor Sir ym mis Ebrill (ar ôl i Lywodraeth Cymru amlinellu ei chynlluniau ar gyfer adolygu'r canllawiau gweithredu terfyn cyflymder cenedlaethol o 20mya), i dderbyn awgrymiadau ar ba ffyrdd y mae preswylwyr a busnesau'r sir yn credu y dylid eu heithrio o'r terfyn cyflymder cenedlaethol o 20mya yn y Sir.

Hyd yn hyn mae dros 500 o ohebiaethau wedi eu derbyn gan breswylwyr a busnesau. Mae ychydig dros 300 o ymatebion wedi gofyn am adolygu ffyrdd A a ffyrdd B penodol yn y sir, 37 cais i adolygu ffyrdd eraill, mae 85 wedi mynegi eu barn y dylai pob ffordd ddychwelyd i 30mya ac eithrio ffyrdd y tu allan i ysgolion, ysbytai, meysydd chwarae a neuaddau cymunedol, ac mae 108 o ymatebion wedi mynegi eu cefnogaeth i gyflwyno'r terfyn cyflymder o 20mya neu awgrymu terfyn cyflymder o 20mya ar ffyrdd eraill yn y sir.

Cliciwch yma i gael mynediad i'r arolwg ar-lein.

Fel arall, gall preswylwyr a busnesau e-bostio awgrymiadau, ynghyd â rhesymau dilys, ynghylch pam y dylid eithrio ffordd o'r cyflymder cenedlaethol o 20mya yn y sir: 20mphspeedlimits@sirgar.gov.uk. Gofynnir i'r rhai sy'n cyfrannu â'u barn ddarparu eu cyfeiriad post i gynorthwyo'r Cyngor yn ei broses adolygu.

Bydd yr adborth a gesglir gan yr arolwg yn cael ei adolygu gan y Cyngor Sir o fis Medi ymlaen, gyda swyddogion yn blaenoriaethu rhwydwaith strategol y sir (ffyrdd A a ffyrdd B yn bennaf). Bydd unrhyw ran o'r ffordd a ystyrir yn addas ar gyfer newid yn ôl i 30mya yn destun proses gorchymyn traffig statudol ffurfiol, a fydd yn cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus ar orchmynion traffig penodol fel rhan o'r broses.

Sylwer, ni all yr Awdurdod Lleol weithredu ar sylwadau cyffredinol am y Polisi Cenedlaethol 20mya, gan mai mater i Lywodraeth Cymru yw hwn. Yn unol â hynny, dim ond o fewn paramedrau'r canllawiau cenedlaethol y gall y Cyngor weithredu fel y nodir gan Lywodraeth Cymru.

Os yw eich adborth yn ymwneud â Chefnffyrdd, nid Awdurdodau Lleol sy'n gyfrifol am y rhain. E-bostiwch adborth yn ymwneud â Chefnffyrdd at TrunkRoads20mph@gov.cymru.

Mae mwy o wybodaeth am Gefnffyrdd ar gael ar Fap Data Cymru.

Anogir preswylwyr a busnesau sy'n gefnogol i derfyn cyflymder o 20mya ar ffordd lle maent yn byw neu'n gweithio i ddweud eu dweud ar y mater, drwy anfon e-bost at 20mphspeedlimits@sirgar.gov.uk

Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn derbyn awgrymiadau gan y cyhoedd tan 31 Awst.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

Yng ngoleuni canllawiau newydd Llywodraeth Cymru, rydym yn ymestyn y ffenestr lle gall pobl fynegi eu barn ar ba ffyrdd penodol yn Sir Gaerfyrddin ddylai gael eu heithrio o'r terfyn cyflymder o 20mya a pha ffyrdd sydd wedi elwa o leihau'r terfyn cyflymder diofyn.
Er mwyn casglu sylwadau a barn pobl yn iawn, rhaid i bob sylw neu farn gyfeirio at ran benodol o'r ffordd, ynghyd â rhesymau dilys. Ni fydd ceisiadau sy'n nodi y dylai 'pob ffordd' ddychwelyd i derfyn cyflymder o 30mya neu gael gwared ar yr holl derfynau cyflymder o 20mya yn cael eu hystyried, gan mai 20mya yw'r terfyn cyflymder diofyn cenedlaethol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.”

Rhoi Gwybod am Bryderon ynghylch Goryrru

Yr Heddlu a GanBwyll sydd â'r rôl o orfodi'r terfyn cyflymder presennol. Gallwch gyflwyno pryder ynghylch goryrru yn y gymuned yn uniongyrchol gyda GanBwyll.

Mae rhagor o wybodaeth am ddull yr Heddlu a GanBwyll o orfodi'r 20mya i'w gweld ar wefan GanBwyll.

Mae rhagor o wybodaeth am y terfyn cyflymder o 20mya i'w gweld ar dudalen Cwestiynau Cyffredin Llywodraeth Cymru.