Y Cyngor yn cwblhau trawsnewid hen adeilad yr YMCA yng nghanol Llanelli

46 diwrnod yn ôl

Mae hen adeilad yr YMCA yng nghanol Llanelli wedi cael ei drawsnewid yn swyddfeydd modern, unedau adwerthu a chartrefi newydd i bobl leol.

Mae'r adeilad, sydd ar Stryd Stepney yng nghanol tref Llanelli, yn cynnwys pedair uned adwerthu ar y llawr gwaelod, pedair swyddfa ar y llawr cyntaf, ac wyth fflat dwy ystafell wely  i bedwar person.

Gan edrych dros Erddi'r Ffynnon, mae'r datblygiad yn cynnig cyfle cyffrous i fusnesau sy'n chwilio am fan adwerthu neu swyddfa o safon mewn lleoliad arbennig yng nghanol y dref. Mae rhai busnesau wedi mynegi diddordeb ac mae'r Cyngor yn gwahodd diddordeb pellach gan unrhyw un sy'n chwilio am le ac iddo gyfarpar da lle gall busnes ffynnu.

Mae gan bob uned ei chyflenwad trydan, ei chegin a'i chyfleusterau lles ei hun, yn ogystal â mynediad i'r rhyngrwyd ledled y datblygiad.

Bydd y fflatiau preswyl, sydd ar ddau lawr uchaf yr adeilad, yn llety modern o safon ar gyfer hyd at 32 o bobl, ac maent wedi cael eu datblygu â phwyslais ar fod mor effeithlon ag sy'n bosib o ran ynni ac ar leihau biliau ynni.

Bydd y cartrefi yn cael eu dyrannu yn seiliedig ar y Polisi Gosod Lleol a grëwyd yn benodol ar gyfer datblygiad yr YMCA. Mae'r Polisi Gosod Lleol yn canolbwyntio ar ddarparu cartrefi i bobl leol gyda meini prawf penodol, gan ystyried materion lleol sy'n helpu i greu cymuned gynaliadwy a chytbwys.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

Bydd datblygu hen adeilad yr YMCA yn helpu i hyrwyddo amgylchedd o safon sy'n ddeniadol i ystod eang o bobl drwy greu man adwerthu hyblyg a llety preswyl ar y llawr uchaf. Mae'r prosiect hwn hefyd yn gyfraniad mawr i'n cynlluniau ehangach i ddatblygu canol tref Llanelli.

Byddai'r unedau hyn yn gaffaeliad i unrhyw fusnes. Datblygwyd yr unedau adwerthu ar y llawr gwaelod gyda busnesau newydd mewn golwg, ac rydym yn agored i fynegiannau o ddiddordeb gan ystod eang o fusnesau newydd a phresennol sydd am swyddfa o safon ar lawr cyntaf yr adeilad.”

Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, Aelod Cabinet dros Gartrefi:

Rwy'n falch iawn bod Cyngor Sir Caerfyrddin, unwaith eto, wedi creu pwrpas newydd i adeilad presennol a'i droi'n llety modern o ansawdd da i bobl leol sydd â'r angen mwyaf.

Mae'r cartrefi newydd yng nghanol Llanelli wedi cael eu datblygu gyda'r bwriad o fod mor effeithlon ag sy'n bosib o ran ynni ac ar leihau biliau ynni i breswylwyr, yn ogystal â chreu'r mathau o gartrefi mae eu hangen fwyaf ar bobl leol.”

Ewch i wefan y Cyngor i gael rhagor o wybodaeth am yr unedau adwerthu a'r swyddfeydd yn natblygiad yr YMCA.

Mae'r prosiect yn rhan o ddatblygiadau canol tref ehangach Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n cynnwys gwella'r defnydd o eiddo gwag ac eiddo nad oes defnydd digonol yn cael ei wneud ohono yng nghanol y dref, sy'n cynnwys buddsoddiad o dros £18 miliwn drwy adfywio eiddo.

Mae'r prosiect hwn wedi'i ariannu'n rhannol gan Raglen Trawsnewid Trefi. Mae hefyd yn rhan o ymrwymiad Cyngor Sir Caerfyrddin i gefnogi'r gwaith o ddarparu 2,000 o gartrefi newydd yn ystod y pum mlynedd nesaf.