Wythnos Twristiaeth Cymru

51 diwrnod yn ôl

Mae Cynllun Llysgenhadon Twristiaeth Sir Gâr yn annog pobl sydd â hyfforddiant a gwybodaeth am yr hyn sydd gan Sir Gâr i’w gynnig i gymryd rhan a dod yn Llysgennad yn ystod Wythnos Twristiaeth Cymru. 

Mae dros 400 o bobl wedi cofrestru ar gyfer y cynllun ar-lein ac i ddathlu Wythnos Twristiaeth Cymru rhwng 15 a 19 Gorffennaf 2024 rydym wedi lansio'r modiwl Sir Gâr gynaliadwy. Hwn yw'r modiwl diweddaraf i gael ei ryddhau ar y platfform ar gyfer y llysgenhadon Aur cyntaf. Byddwn yn parhau i ehangu a chyflwyno modiwlau newydd yn ystod y misoedd nesaf.

Mae cofrestru i fod yn Llysgennad Cymru yn gyfle gwych i ddysgu rhywbeth newydd y mis hwn. Gall dysgu parhaus gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl; p'un a ydych chi'n awyddus i ddysgu mwy am yr ardal, gwella eich gobeithion o ran cael gwaith neu gwrdd â phobl newydd, mae dod yn Llysgennad yn ffordd wych o ddyfnhau eich gwerthfawrogiad o le.

Mae Wythnos Twristiaeth Cymru yn fenter a arweinir gan Gynghrair Twristiaeth Cymru i godi ymwybyddiaeth o'r materion sy'n effeithio ar ein diwydiant, ond mae hefyd yn gyfle i arddangos ansawdd yr hyn rydym yn ei gynnig, dysgu am ein llwyddiannau a'n heriau a dathlu un o'n diwydiannau allweddol yng Nghymru.

Mae'r Cyngor Sir hefyd yn bwriadu cynnal digwyddiad dathlu ar gyfer Llysgenhadon Twristiaeth Sir Gâr cyntaf y Sir yn ystod Wythnos Addysg Oedolion (9–15 Medi). Cynhelir y digwyddiad gan y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet y Cyngor dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth, yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin, lle bydd y cyfranogwyr llwyddiannus yn derbyn eu tystysgrif yn swyddogol. 

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans:

 Rydym yn falch iawn o weld nifer y bobl sydd wedi mwynhau symud ymlaen drwy'r modiwlau a'r cwisiau i ddysgu am hanes, diwylliant, bwyd a diod, chwedlau, gweithgareddau a thrysorau cudd sy'n aros i gael eu darganfod yn Sir Gâr. Mae'n wych ein bod bellach yn gallu dyfarnu 3 lefel – Llysgenhadon Twristiaeth Aur, Arian ac Efydd. Mae'r Sir yn hynod falch o'r hyn rydych wedi'i gyflawni a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i chi am arwain y ffordd. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r amrywiaeth o bobl a busnesau sydd wedi ymuno â'r cynllun ac rydym yn edrych ymlaen at ddathlu'r cyfraniadau maen nhw'n eu gwneud i'r diwydiant twristiaeth yn y digwyddiad ym mis Medi. Rydym yn falch iawn ein bod wedi buddsoddi mewn pobl a busnesau sy'n wirioneddol angerddol am y sir hon ac sy'n ein helpu i hyrwyddo'r hyn sydd ganddi i'w gynnig i bobl eraill yn Sir Gâr ac i'n hymwelwyr. Rydych chi'n gwneud gwahaniaeth ar draws ein cymunedau.

Ychwanegodd Jeremy John o Reilffordd Gwili, Caerfyrddin:

Gyda chymaint o bobl yn ymweld o bob rhan o'r DU, roedd yn bleser gweld eu hwynebau wrth i chi ddweud wrthyn nhw pa lefydd diddorol y gallwn nhw ymweld â nhw, a'r cyfan o fewn pellter rhesymol. Rydym mor ffodus yn Sir Gâr bod bob amser le i ymweld ag ef, beth bynnag fo'r tywydd, a hynny ar gyfer teuluoedd neu barau yn unig ac sy'n addas i'w cyllidebau. Rwyf bob amser yn credu bod gwybodaeth yn cyfateb i hyder ac mae'r cynllun Llysgenhadon yn sicr yn rhoi'r wybodaeth a'r hyder i roi'r profiad gorau posibl i'n hymwelwyr.

Dywedodd Paul Raven o Tea Traders yng Nghaerfyrddin:

Mae ein siop de yng nghanol Caerfyrddin. Rydym yn croesawu ymwelwyr i'r dref bob dydd. Mae cwblhau'r rhaglen Llysgenhadon yn hawdd. Rwyf wrth fy modd â'r ffaith bod modd cwblhau'r modiwlau byr ar-lein yn fy amser fy hun. Mae'n adnodd gwych ac yn ffordd dda o fy helpu i ddysgu mwy am Sir Gâr a Chymru.  Byddwn yn argymell y rhaglen i unrhyw fusnesau lleol sy'n awyddus i helpu ymwelwyr i ddysgu mwy am Gymru a'r hyn sydd gan ein Sir wych i’w gynnig. 

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun ac i gofrestru ewch i Llysgenhadon Twristiaeth Sir Gâr (llyw.cymru)