Parciau Gwledig Sir Gâr yn Cadw Statws y Faner Werdd
152 diwrnod yn ôl
Mae Parc Gwledig Pen-bre, Parc Gwledig Llyn Llech Owain, a Pharc Coetir y Mynydd Mawr yn dathlu cadw eu statws Baner Werdd am flwyddyn arall.
Rhoddir Gwobr ryngwladol y Faner Werdd i barciau sydd â chyfleusterau rhagorol i ymwelwyr, safonau amgylcheddol uchel, ac ymrwymiad i ddarparu mannau gwyrdd o safon.
Er mwyn cael y wobr, rhaid i'r parciau gyrraedd safonau rhyngwladol trylwyr ar draws meysydd allweddol, gan gynnwys bod yn groesawgar, yn iach, ac yn ddiogel; cynnal glendid ac amgylcheddau a reolir yn dda gyda bioamrywiaeth gyfoethog; ymgysylltu â'r gymuned i warchod tirwedd a threftadaeth y parc, ac arddangos strategaethau rheoli, marchnata a chyfathrebu effeithiol.
Yng Nghymru, cyflwynir rhaglen Gwobr y Faner Werdd gan Cadwch Gymru'n Daclus, yr elusen amgylcheddol, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru. Mae'r wobr hon yn arwydd o brofiad o'r radd flaenaf i bobl leol ac ymwelwyr â Sir Gaerfyrddin.
Mae arbenigwyr mannau gwyrdd yn rhoi'u hamser o'u gwirfodd i feirniadu'r parciau a'u hasesu yn erbyn wyth maen prawf caeth, gan gynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheoli'r amgylchedd a chynnwys y gymuned.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden a Thwristiaeth:
"Mae'r wobr yn cydnabod ein hymrwymiad i ddarparu mannau o safon i drigolion ac ymwelwyr eu mwynhau, gan sicrhau amgylchedd naturiol sy'n ffynnu ar yr un pryd."
Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd ar gyfer Cadwch Gymru'n Daclus:
"Rydym ni wrth ein bodd o weld 92 o fannau gwyrdd yng Nghymru yn ennill statws y Faner Werdd, sy'n dyst i ymroddiad a gwaith caled cannoedd o staff a gwirfoddolwyr. Mae mannau gwyrdd o safon yn hanfodol i lesiant corfforol a meddyliol pobl ledled Cymru, ac mae cael ein cydnabod ymhlith y goreuon yn y byd yn gamp a hanner. Llongyfarchiadau!"
Gallwch weld rhestr lawn o enillwyr y wobr ar wefan Cadwch Gymru'n Daclus.