Mannau dŵr cyhoeddus am ddim yn Sir Gaerfyrddin
158 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn darparu gorsafoedd ail-lenwi dŵr am ddim ar draws y sir fel rhan o Ymgyrch 'City to Sea' Llywodraeth Cymru.
Nod yr Ymgyrch 'City to Sea' yw lleihau'r defnydd o boteli plastig untro, trwy ei gwneud yn hawdd, yn gyfleus ac am ddim i ail-lenwi poteli dŵr amldro. Mae'r Cyngor Sir wedi gosod 6 gorsaf ail-lenwi yn y lleoliadau canlynol:
- Llansteffan
- Talacharn
- Maes Parcio Heol Ioan, Caerfyrddin
- Parc Howard, Llanelli
- Maes Parcio Llandeilo
- Maes Parcio Llanymddyfri
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:
Nod y gorsafoedd ail-lenwi yw rhoi ffordd gyfleus i drigolion a thwristiaid Sir Gaerfyrddin ail-lenwi eu potel ddŵr pan fyddant allan, ond mae hefyd yn mynd i'r afael â'r materion yn ymwneud â phlastigau untro trwy annog pobl i ddod â photeli dŵr amldro allan gyda nhw. Fel Awdurdod Lleol, rydym wedi ymrwymo i gyfrannu at y sgwrs ynghylch newid hinsawdd a gwella'r amgylchedd o'n cwmpas trwy annog pobl i beidio â defnyddio plastigau untro.
Mae'r Cyngor Sir wedi ymrwymo i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â newid yn yr hinsawdd, mae hyn yn rhan o Amcan Llesiant Cyngor Sir Caerfyrddin: - Galluogi ein cymunedau a'n hamgylchedd i fod yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus (Cymunedau Ffyniannus).
Ariannwyd y prosiect hwn trwy gynllun grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru.