Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin yn lansio Sialens Ddarllen yr Haf - "Crefftwyr Campus"

52 diwrnod yn ôl

Mae Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin, ar y cyd â'r Reading Agency, yn falch iawn o gyhoeddi dechrau Sialens Ddarllen yr Haf eleni, "Crefftwyr Campus." Mae'r rhaglen ddiddorol am ddim hon, sydd ar waith drwy gydol gwyliau'r haf, yn gwahodd plant rhwng 4 ac 11 oed i ddathlu creadigrwydd trwy ddarllen.

O ddydd Sadwrn, 6 Gorffennaf, gall plant gofrestru ar gyfer y sialens yn unrhyw un o 18 o Lyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin. Mae'r thema eleni, "Crefftwyr Campus," yn annog plant i gamu i fyd o greadigrwydd a dychymyg. Mae'r cyfranogwyr yn cael y dasg o ddarllen chwe llyfr neu fwy, gan ddatblygu cariad at ddarllen wrth ddatgloi eu potensial creadigol.

I ymuno â Sialens Ddarllen yr Haf, mae'n rhaid i blant fod yn aelodau o'r llyfrgell. Mae cofrestru'n syml a gellir gwneud hynny wyneb yn wyneb yn eich llyfrgell leol. Yn ogystal, gall cyfranogwyr olrhain eu cynnydd ar-lein trwy fynd i sialensddarllenyrhaf.org.uk. Wrth i blant orffen darllen pob llyfr, gallant ei ychwanegu at eu proffil ar-lein, gan ennill bathodynnau digidol a gwobrau ar-lein. Mae'r platfform hefyd yn cynnig gemau, cystadlaethau, a'r cyfle i argymell llyfrau.

Mae gwobrau anhygoel yn aros am y rhai sy'n cwblhau'r sialens, gan gynnwys tocynnau i'r theatr, tocynnau teulu i ganolfannau hamdden lleol, a thocynnau i'r Amgueddfa Cyflymder ym Mhentywyn. Bydd pob plentyn sy'n cyrraedd ei nod darllen yn derbyn tystysgrif a medal yn dathlu ei gyflawniad.

Rhannodd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth, ei brwdfrydedd dros y fenter, gan ddweud:

Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn gyfle gwych i blant archwilio eu creadigrwydd a datblygu cariad gydol oes at ddarllen. Rydym yn falch iawn o gynnig gwobrau mor gyffrous ac yn edrych ymlaen at weld ein darllenwyr ifanc yn cymryd rhan yn y thema eleni, sef "Crefftwyr Campus".

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'ch Llyfrgell leol yn Sir Gaerfyrddin neu ewch i sialensddarllenyrhaf.org.uk